Matthew Rhys
Ar wahân i’w deulu, yr un peth mae’r actor Matthew Rhys yn gweld eisiau draw yn LA  ydy gwledda ar bysgodyn a sglodion go iawn.

“Dyna’r unig beth allwch chi ddim ei gael yn LA,” meddai wrth y Western Mail. “Mae wastad yn French fries a fersiwn o bysgod mewn cytew.”

Mae’n gwyntyllu’r syniad o efallai agor ei siop sglods ei hun gyda rhai o’i fêts – sy’n cynnwys Ioan Gruffudd, Owain Yeoman ac Andrew Howard.

“Mae hyn  wedi cael ei drafod yn fanwl ar sawl achlysur – hyd at ba bethau  i’w rhoi yn y siop,” meddai.

Gyda lot o Brydeinwyr yn byw yn Santa Monica, medd yr actor, a’r ffaith ei fod yn dref glan môr, byddai’n ddelfrydol.

Bydd Matthew Rhys i’w weld ar ein sgriniau mis yma ar raglen The Scapegoat, ITV1 Wales.