Cyn hir, bydd yna gasgliad o ffotograffau yn cynrychioli gwaith dau ffotograffydd o wahanol oesoedd a chefndiroedd gwahanol iawn yn cael eu harddangos yn y Mwldan yn Aberteifi.

Cafodd y ffotograffau gwreiddiol eu cymryd gan Tom Mathias, ffotograffydd a ddysgodd ei hun, ar droad yr 20fed Ganrif. Gan ddefnyddio offer syml, recordiodd Tom Mathias bywyd beunyddiol o gwmpas ardal Cilgerran yn Ngorllewin Cymru.

Yn dilyn ei farwolaeth ym 1940, cafodd ei holl negatifau eu taflu allan i sied, lle wnaethon nhw aros, heb eu darganfod, am fwy na 30 blynedd.

Ond yn 1970, gwnaeth Maxi Davies, ffotograffydd proffesiynol yn byw yn yr ardal eu darganfod.

“Wnaeth y dyn a oedd yn byw yn nhŷ Tom eu darganfod nhw, a’u rhoi nhw i Maxi, gan wybod y byddai ganddo ddiddordeb. Roedd e eisiau cael eu gwared nhw,” meddai Peggy Davies, gweddw Maxi Davies, wrth Golwg 360.

Bu farw ei gŵr yn 1990.

Bwrw ati

“Roedden ni’n byw mewn hen ffermdy yn Abercych – wnaethon ni droi un o’r stafelloedd gwely yn stafell dywyll er mwyn gwneud printiau ohonyn nhw.”

Roedd y negatifau gwydr mewn cyflwr gwael iawn, meddai.

“Roedd nifer wedi torri neu eu niweidio’n rhy wael i’w trwsio. Roedd y rhan fwyaf o’r gweddill wedi dirywio’n ofnadwy, felly roedd hi’n broses araf a llafurus o achub pa bynnag delweddau oedd yn bosibl.”

Ond roedd digon wedi goroesi i Maxi Davies i werthfawrogi pwysigrwydd yr hyn oedd wedi darganfod ac aeth ati i warchod ac adfer y ffotograffau.

“I ddechrau, doedd gan neb ddiddordeb yn y prints, felly wnaethon ni drefnu eu dangos nhw yn y neuadd bentref yng Nghilgerran, yn 1984,” meddai Peggy Davies.

“Ges i afael mewn rholiau plaen o bapur newydd, a gosod y lluniau ar hwnnw – ac wrth i bobol ymweld, wnaethon nhw roi enwau’r bobol a oedd yn y lluniau, y rheini yr oedden nhw’n eu hadnabod.

“Roedd hi’n gyffrous iawn i Maxi a finne, ro’n ni’n teimlo ein bod wedi cyflawni rhywbeth.”

Bydd yr Arddangosfa yn Y Mwldan Medi 15 – Tachwedd 3.

Llinos Dafydd