Charlotte Church
Mae’n gantores ac yn fam, ac yn seleb – a nawr mae’n gynllunydd. Ond wnaeth Charlotte Church gyfaddef dros y penwythnos nad oes ganddi ddim diddordeb o gwbl mewn ffasiwn.

Er gwaetha’r lluniau glam ohoni mewn digwyddiadau mawr, mae’n well ganddi aros adref ac ymlacio mewn dillad cyfforddus, meddai.

Mewn cyfweliad gyda’r Wales on Sunday, wnaeth hi ddweud bod yn well ganddi wisgo sanau sliperi na sodlau gan gynllunwyr enwog.

Mae hyn ar ôl iddi gynllunio esgidiau i blant fel rhan o ymgyrch elusen.

“Wnes i a fy ffrind gorau, Naomi, gynllunio nhw gyda’n gilydd, am ei bod hi lot mwy fashion conscious na beth ydw i,” meddai wrth y papur dydd Sul, a dweud hefyd nad oedd gan ei phlant hi – Ruby, 5 a Dexter, 3 – ddim diddordeb mewn dillad eto chwaith, oni bai ei fod yn “wisg ffansi.”

Mae’r gantores sy’n byw ym Mro Morgannwg wedi creu 4 pâr arbennig o sgidiau i label Step2wo, ac mae canran o’r arian o werthiant yr esgidiau yn mynd at Apêl Mending Broken Heards gan Sefydliad Prydeinig y Galon.

“Mae plant yn bethau bach tlws a bywiog … dylen nhw gael eu gwisgo mewn lliwiau llachar ac mewn steil sy’n addas i’w hoedrannau,” meddai.

Ond iddi hi, er ei bod hi wedi magu mwy o ddiddordeb mewn ffasiwn, mae’n cyfaddef ei bod hi’n gwisgo “beth bynnag dw i eisiau, dw i ddim yn poeni am ffasiwn.”

“Y dyddiau yma, dw i’n fwy tebygol o gael fy ngweld mewn pâr o sanau sliperi.”

Mae modd gweld a phrynu’r esgidiau a gynlluniwyd gan Charlotte Church drwy fynd i www.step2wo.com