Marta Klonowska sy’n adolygu cyfrol newydd, Ar Flaen Fy Nhafod, gan D. Geraint Lewis.
Yn y blynyddoedd cyntaf o ddysgu Cymraeg roedd llyfrau D. Geraint Lewis ymhlith fy adnoddau hanfodol. Oherwydd diffygion geiriaduron Cymraeg sydd ar gael, roedd llyfrau fel ‘Pa Adroddiad?’ yn wir fendith wrth ysgrifennu yn Gymraeg.
Erbyn hyn mae’r sefyllfa wedi gwella ychydig – yn enwedig ers i Eiriadur yr Academi fynd ar-lein – ond heb os nac oni bai mae prinder y llyfrau sy’n disgrifio’r iaith yn dal i fod.
Y mis diwethaf ymddangosodd cyfrol newydd D. Geraint Lewis, ‘Ar Flaen fy Nhafod. Casgliad o ymadroddion Cymraeg’ – ac mae’n debyg bydd hwnnw’n dod yn adnodd pwysig arall ac yn gyflawnder i’r llyfrau sydd ar y farchnad yn barod, fel ‘Geiriadur idiomau’ gan Alun Rhys Cownie.
Fel dywed y teitl, mae prif ran y llyfr yn cynnwys rhestr o ymadroddion Cymraeg â’r mwyafrif ohonynt wedi’u cyfieithu i’r Saesneg. Yn ogystal â’r ymadroddion a phriod-ddulliau a ddefnyddir bob dydd – fel “ar y gweill” neu “cario clecs” – ceir nifer o ddywediadau prin, weithiau hen-ffasiwn. “Bwyta uwd efo mynawyd” (mynawyd yn golygu ‘nodwydd’ yma), “yr hen fegin” (yr ysgyfaint) a “chyllell sbaddu malwod” – dyma rai enghreifftiau o’r casgliad enfawr.
Geiriau
Ond mae ’na ragor na hynny yn y gyfrol. Hwnt ac yma (un o’r ymadroddion a ddysgais o’r llyfr) gallwn ddod o hyd i eiriau unigol, anarferol, er enghraifft budrelwa, ciando neu bwmbwr. Er na ddylen nhw gyfrif fel ymadroddion, mae’n debyg, mae’n hawdd gweld na allai’r awdur wrthsefyll y temtasiwn i roi’r geiriau diddorol hyn yn y geiriadur – sy’n dangos ei gariad tuag at yr iaith ac yn rhoi ryw fath o agwedd personol i’r llyfr.
Heblaw am hynny, mae’r gyfrol yn llawn o hen ddiarhebion a dyfyniadau o farddoniaeth Gymraeg a’r Beibl. Syniad da yw esbonio’u hystyrion yn Gymraeg, am fod llawer ohonynt yn cynnwys hen eiriau astrus.
Caiff y geiriadur ei ddilyn gan restr o gymariaethau (“mor gynnes â phathew” yw fy hoff un!) a mynegai Saesneg a fydd yn sicr o ddefnydd mawr i ddysgwyr.
Wrth gwrs, mae’r ddihareb “mae’r calla’n colli weithiau” yn wir am y gyfrol hon hefyd. O bryd i’w gilydd, ceir ymadroddion heb unrhyw esboniad neu gyfieithiadau Saesneg sy’n ddim yn hollol addas. Er enghraifft cyfieithwyd “Pawb â’i fys lle bo’r dolur” fel “touch a nerve” ac rwy’n credu bod y ddau yn rhy bell oddi wrth ei gilydd i gael eu defnyddio fel trosiadau.
Un peth ydw i’n gweld eisiau yn y llyfr hefyd yw cyd-destun a fyddai’n dangos i ddysgwyr sut i ddefnyddio rhai ymadroddion mewn brawddegau (yn anffodus, mae’r broblem hon yn berthnasol i’r mwyafrif o eiriaduron Cymraeg).
Ond ar y cyfan, diolch i ddawn arbennig yr awdur, mae ‘Ar Flaen fy Nhafod’ yn llyfr werth ei ddarllen yn hytrach na dim ond ei ddefnyddio fel geiriadur arferol. Wrth dangos cymysgedd o bethau gwahanol – doeth a digrif, prin a chyffredin – gall ‘Ar Flaen fy Nhafod’ fod o fudd mawr nid yn unig i ddysgwyr, ond hefyd i bawb sy’n hoff o hela trysorau’r iaith.
Mae Marta Klonowska yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Poznan yng Ngwlad Pwyl, sydd ar leoliad gwaith gyda Golwg/Golwg360 dros yr haf.