Aled Jones
Dydy’r canwr a’r cyflwynydd o Ynys Môn Aled Jones heb gael croeso cynnes iawn bore ma wrth iddo fe a Lorraine Kelly gyflwyno’r rhaglen ITV1 Daybreak ar ei newydd wedd.
Cafodd y rhaglen ei ailwampio ar ôl i’r cyflwynwyr blaenorol, Christine Bleakley ac Adrian Chiles, fethu â denu digon o wylwyr.
Wrth adael negeseuon ar wefan Daybreak bore ma, fe fu rhai gwylwyr yn feirniadol iawn o’r ddau gyflwynydd newydd gan ddweud eu bod yn “ddiflas” a chyhuddo’r cynhyrchwyr o beidio â gwrando ar farn y gwylwyr.
Roedd Kate Garraway, a fydd yn parhau i gyflwyno’r rhaglen ar ddydd Gwener, a Dan Lobb wedi bod yn cyflwyno Daybreak nes iddi gael ei hail-lansio bore ma.
Ond mae nifer o wylwyr wedi galw ar y ddau i ddychwelyd neu’n bygwth troi at raglen foreol y BBC.
Mae Aled Jones yn wyneb cyfarwydd ar deledu ac ar y radio, ac wedi cyflwyno rhaglenni eraill yn cynnwys Escape to the Country, Cash in the Attic, a Songs of Praise.