Y Derwyddon - Dirgelwch yr Ogam
Kinga Uszko sy’n adolygu llyfr comig Cymraeg y daeth ar ei draws ar hap.

Mae llyfrau comig yn fath arbennig o lyfrau.

Wrth gwrs, maen nhw’n fyr iawn, ond maen nhw’n gallu cyfleu meddyliau a ffeithiau yn fwy effeithiol na llyfrau eraill yn aml gan fod llyfrau’n gallu disgrifio pob digwyddiadau yn eang, tra bod rhaid bod yn gryno mewn llyfrau fel Y Derwyddon.

Dw i ddim yn arfer darllen llyfrau comig gan fod y mwyafrif ohonynt yn dod o Siapan a Tsiena a dw i ddim yn rhy hoff o’r math yma o storiâu. Ond pan welai lyfr y Derwyddon ar y silff mewn swyddfa Geltaidd ym mhrifysgol Poznań, gwyddwn y byddai’n wahanol, ac fe gefais fy mesmereiddio ganddo.

Lle i bopeth a phopeth yn ei le

Ar ôl cael cip cyflym ar y clawr deniadol, fe wyddwn fod hwn yn llyfr gwahanol i’r arfer – yn llyfr oedd angen imi ddarllen.

Addasiad gan Alun Ceri Jones o’r Ffrangeg yw’r nofel raffeg yma. Mae’n rhoi cofnod hanesyddol o Oes y Seintiau, ond mae’r cymeriadau a’r digwyddiadau wedi eu hysbrydoli gan hanes y bumed ganrif  a chwedloniaeth. Mae’r stori wreiddiol wedi ei chreu gan Jean- Luc Istin a Thierry Jigourel ac mae Jaques Lamontagne wedi darlunio’r lluniau’n fedrus.

Cyfres

Y gyfrol gyntaf yw hon mewn cyfres o bump o lyfrau am hanes a chwedloniaeth Geltaidd. Mae’r gyfrol gyntaf yma am y derwyddon.

Mae’r llyfr yn rhoi cipolwg ar hanes y gwledydd Celtaidd gan ddefnyddio lluniau trawiadol a thywyll ar adegau. Mae’r llyfr yn dangos y cysylltiad rhwng cymunedau Celtaidd arbennig ac mae’n darlunio hierarchaeth gymdeithasol.

Mae’r awdur yn cyflwyno’r cymeriadau oedd yn unigolion a phethau pwysig i gymuned Geltaidd y bumed ganrif, fel Esgob Garmon a arweiniodd y Brythoniaid yn erbyn y Saeson, ac Ynys Friad oddi ar arfordir Llydaw lle sefydlwyd sawl mynachlog gan seintiau o Gymru.

Lawer o gwestiynau i’w hateb

Mae’r stori’n dechrau gan sôn am farwolaeth dau fynach mewn amgylchiadau amheus. Ar ôl hynny, dyn ni’n cael ein tynnu i ganol dirgelwch ysgrifen ogam, ysgrifen sanctaidd y derwyddon gyda symbol y triban a oedd ar eu cyrff.

Mae cymeriadau Taran a Gwynlan yn dod i’w helpu i ddatrys y dirgelwch ynghyd â mynach arall, Tudwal.

Stori gyda llawer o ddirgelwch a chyfrinachau ydy hon. Bydd ‘na fwy o lofruddiaethau i ddilyn, a rhain hyd yn oed yn fwy rhyfeddol a syfrdanol. Pam mae mynachod yn cael ein llofruddio? Pam bod yr ysgrifen Ogam wedi paentio ar eu  cyrff?

Ar y cyfan, mae llyfr hwn yn werth ei darllen. Mae’n ddymunol a syfrdanol ar yr un pryd. Mae’n gwneud i chi fod eisiau darllen mwy a mwy, ac awchu am gael  darllen cyfrolau eraill y gyfres fytholegol hon.