Meic Stephens (Llun gan Y Lolfa)
Y bedwaredd mewn cyfres o ddyfyniadau o hunangofiant newydd Meic Stephens  – ‘Cofnodion’ sy’n cael eu cyhoeddi’n ecsgliwsif ar Golwg360 yr wythnos hon.

Yn y rhan hon mae’n egluro sut bu rhai yn y byd llenyddol yn ceisio manteisio ar y pwrs cyhoeddus.

Ro’n i gyda Chyngor Celfyddydau Cymru o fis Medi 1967 hyd fis Gorffennaf 1990… Erbyn cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Llenyddiaeth yn y flwyddyn ariannol newydd, 1968/9, ro’dd y Cyngor wedi neilltuo swm o £20,000 ar gyfer llenyddiaeth… Er bod y swm yn dishcwl yn eithaf pitw nawr, dyma gychwyn da: ro’dd y byd llenyddol yng Nghymru’n dechrau elwa’n sylweddol ar arian y wladwriaeth am y tro cyntaf. Cawsom ein beirniadu am dderbyn nawdd y wladwriaeth Brydeinig gan rai, wrth gwrs, ond bob yn bwt tawelwyd y feirniadaeth ac eithrio yn nhudalennau Lol, lle o’dd y dychan yn gallu bod yn ddoniol o ddeifiol o dro i dro. Dishcwylais ar yr arian a ddeilliai o ffynhonnell y Llywodraeth, a o’dd yn arian pobol Cymru mewn gwirionedd, fel iawndal am y llanast a wnaethpwyd i ddiwylliant ein gwlad dros y canrifoedd.

Fy mhrif broblem i o’dd cael y cyhoeddwyr i ddeall beth o’dd eu hymrwymiadau wrth dderbyn cymhorthdal. Dechreuws ein trafferth gyda Gwasg y Sir tua’r adeg hon, ar gownt ei honiad fod Y Faner yn gwerthu 7,000 o gopïau’r wythnos. Gwn hefyd fod rhai awduron a dderbyniai ysgoloriaethau, yn enwedig

rhai na lwyddai gyhoeddi eu llyfrau, wedi cymryd mantais o haelioni’r Cyngor. Ond dyna fe: rhywpeth newydd o’dd nawdd cyhoeddus ac ro’dd rhaid i bawb ddysgu shwt i ymddwyn wrth fynd ymla’n. Cofiaf Caradog Prichard, er enghraifft, yn erfyn arno i, ar faes yr Eisteddfod, i ’sgrifennu siec am £300 yn y man

a’r lle, i dalu am wyliau yr o’dd e a’i wraig, Mattie, yn bwriadu eu cymryd yng Nghernyw, ac yn troi’n eithaf blin pan esboniais nad o’dd pethau’n gweithio fel ’na.

Ymdrechodd y Pwyllgor yn hir ac yn galed i achub Y Faner rhag ei thranc, ond yn ofer… Do’dd y

perchnogion ddim yn gallu cyflwyno cais digon cynhwysfawr a chredadwy parthed nifer y copïau a werthid; ro’dd yr ateb yn wahanol bob tro y gofynnwyd y cwestiwn. Cafwyd adroddiad rhagarweiniol gan Rhodri Williams am nawdd y Cyngor i gylchgronau ym 1986, a’r argymhelliad mwyaf dadleuol o’dd yr un a wna’th parthed Y Faner. Dyma’r cylchgrawn anoddaf i’w asesu, meddai, oherwydd amharodrwydd y perchnogion, Gwasg y Sir, i gydweithredu ag e…

Ar ôl trafodaeth hir a thanbaid, cytunwyd y dylid hysbysu Gwasg y Sir y byddai’r grant i’r Faner yn dod i ben. Do’dd y Pwyllgor bellach ddim yn gallu cynnal cylchgrawn nad o’dd yn ei hanfod yn un llenyddol… Ond y prif reswm dros beidio rhoi rhagor o arian i Wasg y Sir o’dd nad o’dd y cyhoeddwyr yn fodlon cyflwyno datganiad llawn a chredadwy o’r sefyllfa ariannol… Derbyniwyd nifer o lythyrau oddi wrth y cyhoedd, bron pob un yn feirniadol o benderfyniad y Cyngor, ond ni dda’th un oddi wrth Wasg y Sir.

Prynwyd y teitl gan fy mrawd yng nghyfraith, David Meredith, a’i briod Luned, a o’dd wedi gweithio fel Dirprwy Olygydd y papur. Cadwyd y newyddiadurwr galluog Hafina Clwyd ymla’n fel golygydd ond da’th einio’s yr hen Faner i ben ym 1992. Ro’dd y cyhoeddwyr wedi catw’r papur i fynd am bum mlynedd heb

gymhorthdal, wedi’r cyfan, sy’n awgrymu, ym marn rhai, nad o’dd angen cymorth ariannol mewn gwirionedd. Bo’d hynny fel y bo, dysgodd y Pwyllgor beidio byth rhoi nawdd i unrhyw gyfnodolyn a argreffid gan ei gyhoeddwr ’to oherwydd nad o’dd modd dibynnu ar ei ddatganiadau am gostau a chylchrediad yn y fath amgylchiadau.

Mae ‘Cofnofion’ wedi’i gyhoeddi gan wasg y Lolfa ac ar gael i’w phrynu o’r wefan nawr.

Bydd dyfyniad difyr arall o’r gyfrol yn ymddangos ar Golwg360.com yfory.