Dan Amor
Asia Rybelska sy’n adolygu cynnyrch diweddaraf y cerddor o Ddyffryn Conwy, Dan Amor.

Efallai fod yr amseru’n wael pan ddechreuais wrando ar gerddoriaeth Dan Amor, a bod fy mlas cerddoriaeth yn wahanol. Neu efallai mai gwasanaeth cerddorol yng Ngwlad Pwyl oedd ar fai (diffyg Spotify!).

Beth bynnag oedd y rheswm, ni theimlais awydd cryf i ddarganfod mwy ar ôl gwrando ar ei albwm Adlais. A dyma oedd camgymeriad, gan fod yr hyn a ddaeth wedyn yn rhyfeddol o dda!

Mae ‘Lakeside’, sengl newydd Dan Amor, yn cynnwys dwy gân o’i albwm diweddaraf, Neigwl, cân newydd ‘Mehefin’, yn ogystal â ‘Cysgod Oren a’i remics, sy’n ail-wneithuriad o gân ‘Yr Anhaeddiannol’ (a’r ddwy wedi’u recordio efo AL-PHA-X, artist sy’n creu cerddoriaeth amgylchynol (ambient).

Fel arfer tueddaf osgoi caneuon gyda’r gair ‘mix’ yn eu teitl, ond gwnaeth y ddeuawd joban dda y tro hwn, mor dda nes y mentraf ddweud bod y rheiny’n well na’r fersiwn wreiddiol! Ond gadewch imi gychwyn o’r dechrau un.

Gafaelgar

‘Lakeside’ ydy cân gyntaf y sengl, ac imi mae ei chytgan yn afaelgar ofnadwy. Roedd geiriau “won’t go back to the lakeside yn mynd drwy fy mhen drosodd a throsodd ar ôl imi ei chlywed am y tro cyntaf. Mae’r gân yn rhythmig, ac yn eithaf bywiog o’i chymharu â chaneuon eraill y sengl.

Cân â photensial ydy ‘Yr Anhaeddiannol’ yn fy marn i, a dyma reswm arall pam mae’r ddwy fersiwn o ‘Cysgod Oren’ yn ganeuon gorau’r sengl. Mae cydweithrediad AL-PHA-X yn eu codi i safon newydd.

Rŵan, dwi’n credu, eu bod yn addas i ffans cerddoriaeth Dan Amor, ond hefyd i wrandawyr cerddoriaeth mwy electronig a thawel. Maent yn eithaf dirgelaidd, yn galluogi un i ymlacio, a boddi mewn synau hiraethus.

Hefyd, mae’n ymddangos fod Dan Amor yn ceisio arbrofi â synau yn hytrach na geiriau yng nghaneuon y sengl yma, sy’n rhoi digon o le ar gyfer ddehongliadau gwahanol.

Arbrofol

‘Mehefin’ ydy cân annwyl yr albwm, yn llawn optimistiaeth ac emosiynau cadarnhaol. Hefyd, mae’n debycach i ganeuon blaenorol Dan Amor, gyda dim ond ef a’i gitâr.

Ar y cyfan, mae’r caneuon sydd ar y sengl yn eithaf arbrofol. Dydy’r artist ddim yn canu â chyfeiliant ei gitâr yn unig, fel y gwnaeth yn gyffredinol ar Adlais. Gellir clywed offerynnau eraill hefyd, fel gitâr bas, piano, drymiau gwahanol, a mwy o leisiau ychwanegol sy’n glywadwy yn y cefndir.

Mae awyrgylch y sengl yn ddigon hiraethus a ddirgel. Mae’n galluogi un i gynnal gweledigaethau yn ei ben, fel lluniau du-a-gwyn o lyn niwlog yng nghanol ‘nunlle, a tharthoedd yn codi uwch wyneb y dŵr.

Ac, mewn gwirionedd, hoffwn fod yno, hyd yn oed os mewn dychymyg yn unig. Felly pam ddim peidio ag ymgolli ein hunain mewn synau prydferth a chaboledig, a chael ein cludo i fyd arbennig Dan Amor?