Y drydedd mewn cyfres o ddyfyniadau o hunangofiant newydd Meic Stephens – ‘Cofnodion’ sy’n cael eu cyhoeddi’n ecsgliwsif ar Golwg360 yr wythnos hon.
Mae dyfyniad heddiw’n sôn am ei ymchwil i hanes ei dad, oedd yn blentyn siawns…
Un o’r pethau a orweddai’n drwm ar fy meddwl trwy gydol yr Wyth Degau, tra o’n i gyda Chyngor y Celfyddydau, o’dd yr hyn a ddysgais ym 1962: ro’dd fy nhad yn blentyn siawns. Treuliais gryn dicyn o’m
hamser dros y blynyddo’dd nesaf yn ceisio dod o hyd i’w fam ac, yn y man, ei dad. Ro’dd yn weddol hawdd cael manylion am ei fam ond cymerais tan 2002 i wypod er sicrwydd pwy o’dd ei dad. Yn ffodus, mae hyd yn o’d y bywyd mwyaf di-nod yn gadael olion. Mater o holi a ’whilota o’dd ’whilio am ei fam ond ro’dd rhaid imi ddefnyddio dull mwy gwyddonol i sefydlu pwy o’dd ei dad, sef DNA…
Ro’dd fy nhad yn blentyn anghyfreithlon, plentyn llwyn a pherth, plentyn y cloddiau, plentyn golau leuad… Rhyfedd shwt gymaint o enwau sydd yn y Gymraeg am blentyn siawns… ond do’dd fy nhad ddim yn blentyn serch.
Ca’s fy nhad ei gwnnu yn Hewlgerrig, pentre ar y tyla ar ochor orllewinol Merthyr Tudful, gan William Stephens, plismon, a’i wraig Elizabeth. Siaradai rywfaint o Gymraeg, iaith y pentre, pan o’dd yn blentyn. Ro’dd gan William Stephens fab, Billy, a dwy ferch, sef Anti Annie ac Anti Gwen, gan ei ail wraig.
Da’th y newydd o amgylchiadau ei eni yn sioc fawr i Nhad pan glywodd amdano. Treuliodd wythnos gyfan yn ei lofft yn ffaelu siarad na bwyta. Digwyddws hyn ychydig cyn iddo fe briodi fy mam ym 1935. Ro’dd amgylchiadau ei eni wedi cael eu datgelu i’m mam-gu, a a’th yn syth at fy nhad a gweud wrtho fe.
A’th Nhad yn ei dro i weld Annie a Gwen ym Merthyr i ofyn a o’dd hyn yn wir, a cha’s gadarnhad ei fod e. Ro’dd y babi wedi cyrraedd Hewlgerrig ychydig cyn Nadolig 1910, ynghyd â rhodd o gan sofren aur.
Arferai ei fam, menyw dal, gwallt melyn, meddai Anti Annie wrtho i flynyddo’dd wedyn, ymweld â chartref William ac Elizabeth Stephens am ddwy neu dair blynedd arall, gyda basged o fenyn ac wyau o’r wlad bob tro, ond wrth i’r plentyn ddechrau prifio peidiodd â dod ac ni welsant hi byth wedyn…
Ble i ddechrau ’whilio? Do’n i ddim am blagio fy nhad am y mater rhag ofon y byddwn yn codi ei amheuon fy mod ar drywydd amgylchiadau ei eni. Yna, cetho i syniad… Ysgrifennais at y Cofrestrydd Cyffredinol i ofyn am gopi o dystysgrif geni fy nhad. Pan dda’th y ddogfen rhyw wythnos wedyn gwelais enw mam fy nhad am y tro cyntaf: Annie Sophia Lloyd. Ond yn y man lle ro’dd enw ei dad i fod, dim byd…
Er hynny, rhoddwyd cyfeiriad ei fam, a man geni y plentyn hefyd. Erbyn hyn ro’n i’n benderfynol o ddod y hyd i ragor o fanylion amdani hi a phwy o’dd tad ei phlentyn.
Trwy lwc, a dyfal donc, a llawer o waith ditectif, dechreuais gymryd camrau ymla’n gyda fy ymholiadau. A fel pob ditectif da, ro’n i am droi pob carreg…
Mae ‘Cofnofion’ wedi’i gyhoeddi gan wasg y Lolfa ac ar gael i’w phrynu o’r wefan nawr.
Bydd dyfyniad difyr arall o’r gyfrol yn ymddangos ar Golwg360.com yfory.