Y slogan enwog ger Llanrhystud
Yr ail mewn cyfres o ddyfyniadau o hunangofiant newydd Meic Stephens – ‘Cofnodion’ sy’n cael eu cyhoeddi’n ecsgliwsif ar Golwg360 yr wythnos hon.
Yn y rhan hon o’r gyfrol mae’n trafod ei genedlaetholdeb cynnar
Ni chlywais ddarlith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, ym mis Chwefror 1962 (gan fy mod i ym Mangor ar y pryd ac yn ddi-Gymraeg i bob pwrpas) ond cofiaf y cyffro ymhlith cenedlaetholwyr o’m cenhedlaeth i, Gogleddwyr fel Harri Pritchard Jones, Dafydd Orwig, Owen Owen a Gareth Miles.
Cymerais ran ym mhrotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan ar 2 Chwefror 1963 pan a’th mintai ohonom trwy’r eira yn unswydd i Aberystwyth… Er bod y weithred yn aflwyddiannus – ca’s neb ei arestio am ishta i lawr ar y bont am ryw hanner awr – ro’dd yn glir i rai ohonom fod o’s newydd o weithredu wedi gwawrio yng Nghymru, ac ro’n i am gorddi’r dyfroedd hyd fy ngallu.
Un o’m trysorau yw’r poster a gyhoeddwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol ddwy neu dair blynedd yn ôl i fynd gyda’r arddangosfa Protest, lle rwy’n ishta gyda dyrnaid o brotestwyr o fla’n fan Swyddfa’r Post. Fel swfenîr o’r brotest mae ’da fi graith fach ar fy nghrimog ac rwy’n barod i’w dangos i fyfyrwyr sy’n astudio’r cyfnod.
Yn ystod y ddwy flynedd ganlynol ro’n i’n gweithredu’n gyson o blaid y Gymraeg. Gyda Sionyn Daniel a John Davies es i Sir Benfro ryw noson dywyll a symud yr arwyddion ‘Trevine’ y tu fas i bentre Tre-fin a gosod arwyddion gyda’r sillafiad cywir arnynt yn eu lle, ac wedyn arddangos yr arwyddion Saesneg ar Faes yr Eisteddfod nes i un o’r heddlu cudd gyrraedd i’w nôl nhw. A chyda John Davies, Ysgrifennydd y Gymdeithas, es i Ddinas Mawddwy a dwyn perswâd ar fenyw’r swyddfa bost yno i osod arwydd dwyieithog yr o’n i wedi ei wneud yn fy llythrenwaith gorau.
Ym 1962 a 1963 aethon ni mas yn y tywyllwch i baentio sloganau ar hyd a lled y wlad… Paentiais y geiriau ‘Cofiwch Tryweryn’ ar wal ger Llanrhystud sydd wedi mynd yn dicyn o eicon cenedlaethol, medden nhw. Ro’dd hyn yng nghwmni Rodric Evans, yr unig un o drigolion Garth Newydd a o’dd yn berchen ar gar.
Mae’r slogan, a gafodd ei adnewyddu o dro i dro gan bobol eraill, wedi cynhesu calonnau gwladgarwyr ac wedi catw enw’r cwm a foddwyd o fla’n llygaid y Cymry ac ymwelwyr byth ers hynny. Gresyn nad yw’r ymgyrch i brynu a diogelu’r wal wedi codi digon o arian i’w chatw ar gyfer yr oeso’dd a ddêl. Ble mae’r cenedlaetholwyr, gwêd?
Meic Stephens a Dai Bonner yn cario Gwynfor Evans wedi ei fuddugoliaeth ym 1966
Ro’n i’n bresennol ym mhrotestiadau Dolgellau a Llanbedr Pont Steffan ym 1965 a Machynlleth ym mis Ionawr 1966, a threuliais bythefnos yng Nghaerfyrddin adeg yr isetholiad yng Ngorffennaf 1966 pan etholwyd Gwynfor Evans. Cofiaf y dagrau a lifodd i lawr fy mochau y noson honno.
Mae’r llun ohonof fi a Dai Bonner yn cario Gwynfor ar ein hysgwyddau ar draws y sgwâr yn Llangadog dranno’th ei fuddugoliaeth yn cael ei ddangos yn fynych ar y teledu ac yn y wasg…
Wrth ddishcwl yn ôl fel hyn, gwelaf fod yr achos cenedlaethol yn llenwi fy mywyd yn y dyddiau hynny, a minnau wrth fy modd yn cael y cyfle i wneud rhywpeth dros fy ngwlad o’r diwedd, yn lle siarad amdani.
Mae ‘Cofnofion’ wedi’i gyhoeddi gan wasg y Lolfa ac ar gael i’w phrynu o’r wefan nawr.
Bydd dyfyniad difyr arall o’r gyfrol yn ymddangos ar Golwg360.com yfory.