Cowbois Rhos Botwnnog
Mae dau albwm Gymraeg wedi hawlio lle ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2012.

Bydd Cowbois Rhos Botwnnog a Huw M yn wynebu rhai o fandiau mwyaf adnabyddus Cymru a thu hwnt.

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd fod yn rhan o restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg,” meddai Cate Le Bon, sydd hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer gyda’i halbwm diweddaraf, ‘CYRK’, ar Twitter yn gynharach heddiw.

Ymhlith y deuddeg albwm ar y rhestr fer mae bandiau byd enwog fel Kids In Glass Houses a Los Campesinos!

Cyngerdd

Cafodd y wobr ei chyflwyno am y tro cyntaf y llynedd gan y DJ adnabyddus a chyn gyflwynydd y rhaglen ‘Bandit’, Huw Stephens ynghyd â’r hyrwyddwr cerddoriaeth, John Rostron.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 18 Hydref, yn dilyn penderfyniad gan rai o arbenigwyr mwyaf y sin gerddorol.

Eleni, bydd cyngerdd yn cael ei chynnal noson cyn y gwobrwyo yn y Coal Exchange yng Nghaerdydd, gyda rhai o’r bandiau sydd wedi’u henwebu yn perfformio.

Gruff Rhys, cyn aelod o’r band Super Furry Animals, oedd yn fuddugol yn 2011 gyda’i albwm ‘Hotel Shampoo’.

Y rhestr fer

Bright Light Bright Light – Make Me Believe in Hope

Cate Le Bon – CYRK

Cowbois Rhos Botwnnog – Draw Dros Y Mynydd

Exit International – Black Junk

Future of the Left – The Plot Against Common Sense

Huw M – Gathering Dusk

Islet – Illuminated People

Jodie Marie – Mountain Echo

Kids in Glass Houses – In Gold Blood

Kutosis – Fanatical Love

Los Campesinos! – Hello Sadness

Truckers of Husk – Accelerated Learning