Asia Rybelska o Boznan sy’n adolygu cyfrol am hanes tramorwr arall a ddysgodd yr iaith Gymraeg.
Mae Chris Cope yn rhannu’r hyn a ddigwyddodd iddo yn ystod ei ‘antur fawr â’r iaith Gymraeg’ yn ei hunangofiant ‘Cwrw am Ddim: a rhesymau eraill dros ddysgu’r iaith’. Profiad amrywiol oedd ei brofiad o’r iaith, rhywbeth llawn momentau dramatig, ac yn ôl yr awdur, dyma’r tro cyntaf iddo fod mor onest â’i hunan a’i ddarllenwyr.
Cyd-ddysgwr
Ces fy nhynnu at y llyfr hwn ar ôl imi ddarllen mai dysgwr (Cymraeg) o dramor sydd wedi ei ysgrifennu, gan fy mod innau’n dysgu o hirbell hefyd. Roeddwn am ddarganfod sut ddaeth yr iaith at ei sylw yn y lle cyntaf, sut aeth ati i ddatblygu ei sgiliau, sut oedd yn teimlo wrth ddysgu a pha lwyddiannau a methiannau wynebodd ar y ffordd.
Mae’n rhaid cyfaddef bod Chris Cope wedi’i chael hi’n reit anodd wrth ddechrau dysgu’r iaith. Roedd yn dysgu ei hun, a hynny i ddechrau yn yr Unol Daleithiau, felly’n bell i ffwrdd o Gymru, ac yn weddol gynnar, pan nad oedd y mwyafrif o ffynonellau ar-lein wedi datblygu cymaint ag y maent erbyn heddiw. Ac mae’n disgrifio sut datblygodd ei ddysgu o rywbeth a wnâi fel math o adloniant i fod yn rhan sylfaenol o’i fywyd.
Y Troad Mawr
Mae’r llyfr yn dechrau pan mae’r awdur ar wyliau yn Nolgellau ac mae’n clywed y Gymraeg am y tro cyntaf ei fywyd. Creodd hynny argraffiad mor gref arno, gymaint nes y penderfynodd ddod yn rhan o gymuned sy’n siarad yr iaith.
Dros y blynyddoedd canlynol troes ei frwdfrydedd yn benderfyniad i fudo dros y môr. Ond beth fyddai canlyniad ei fenter? All Chris ddal ati i ddysgu iaith ei freuddwydion? Wrth gwrs, mae’n rhaid imi atal fan hyn a gadael i’r darllenwyr ddarganfod diwedd y stori!
Ychydig o ddoethineb
Un peth roeddwn yn ei hoffi yn arddull yr awdur oedd dogn sylweddol o hunan-eironi. Roeddwn yn gwerthfawrogi’r darnau lle dangosai ei fedr i chwerthin ar ei ben ei hun, gan eu bod yn eithaf prin.
Hefyd, mae gan Chris Cope allu i fynegi barn sy’n bendant ac, yn gyffredinol, mae ganddo bwynt da yn y mwyafrif ohonynt.
Ychydig o chwerwder
Fodd bynnag, yn amlach na pheidio, mae datganiadau Chris Cope rhywsut yn ymddangos yn eithafol braidd, ac mae’n tueddu i deimlo trueni drosto’i hun ar ôl holl fethiannau, y rhai go iawn, ac eraill sydd yn ei ben yn unig.
Ar ôl darllen am ychydig mae hyn yn gallu dod yn flinedig, gan fod yr awdur yn defnyddio’r un dadleuon, yr un geiriau hyd yn oed drosodd a throsodd!
Gobaith i ddysgwyr?
Ar y cyfan, mae’n eithaf anodd imi benderfynu a fwynheais y gyfrol hon neu beidio.
Yn bendant, roedd y rhan gyntaf, â’r awdur yn yr Unol Daleithiau yn ddymunol, ond roedd yn anos wynebu’r ail ran oherwydd awyrgylch negyddol amlwg.
Wedi dweud hynny, gall llyfr fel hwn roi hyder i bob dysgwr: dwi wedi dysgu bod hi’n bosibl cadw safon uchel i’ch arddull (o leiaf wrth ysgrifennu) waeth pa mor ddrwg y try’r pethau.
Mae Asia Rybelska yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Poznan yng Ngwlad Pwyl sy’n treulio’r haf ar leoliad gyda chwmni Golwg.