Mari Siôn o Gyfnewidfa Lên Cymru sy’n edrych ar lenyddiaeth byd …
Yn ôl adroddiad ystadegol newydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan ein chwaer-sefydliad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, dim ond 3% o’r cyfrolau hynny a gyhoeddwyd a/neu a ddosbarthwyd yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon rhwng 1990 a 2012 oedd yn gyfieithiadau.
Canran isel iawn o ystyried bod cyfieithiad a gyhoeddwyd yn cynrychioli 12% o’r cyfrolau yn yr Almaen, 16% yn Ffrainc, 20% yn yr Eidal a 33% yng Ngwlad Pwyl yn 2011.
Llwyddiant Nordic Noir?
Ond er mor isel yw’r canran o gyfieithiadau a gyhoeddwyd, mae’r adroddiad yn nodi bod cynnydd o 66% wedi bod yn nifer y cyfieithiadau llenyddol a gyhoeddwyd dros y ddau ddegawd diwethaf.
Fodd bynnag, prin yw’r newid yn y ganran derfynol yn sgil y cynnydd sylweddol yn y llyfrau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod.
Difyr hefyd oedd gweld bod llenyddiaeth ieithoedd bach fel Swedeg, Norwyeg ac Iseldireg o fewn y deg uchaf o’r ieithoedd a gaiff eu cyfieithu. Arwydd clir o lwyddiant llenyddiaeth Nordic Noir efallai?
Ffair Lyfrau Llundain a’r Ganolfan Gyfieithu Lenyddol
Bu trafod brwd ar adroddiad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yng Nghanolfan Gyfieithu Lenyddol Ffair Lyfrau Llundain gynhaliwyd y mis hwn.
Mae’r Ganolfan wedi sefydlu ei hun bellach fel canolfan boblogaidd a llwyddiannus ar gyfer hyrwyddo’r gelfyddyd o gyfieithu llenyddol.
Gan ddod â chyfieithwyr, golygyddion, myfyrwyr ac awduron ynghyd mewn un gofod ceir cyfle gwych i rwydweithio, trafod a mynychu seminarau amrywiol.
Rôl cylchgronau llenyddol
Fel un o bartneriaid consortiwm y Ganolfan Gyfieithu Lenyddol mae’r Gyfnewidfa Lên yn rhan o’r tîm sy’n gyfrifol am raglen ddigwyddiadau’r ganolfan.
Braf oedd croesawu golygyddion y cylchgrawn llenyddol Taliesin i’r Ganolfan eleni ynghyd â golygyddion y cylchgronau Music & Literature, The Quarterly Conversation, Asymptote a Words Without Borders ar gyfer trafodaeth banel arbennig ar rôl cylchgronau llenyddol yn rhannu llenyddiaeth byd.
O fewn adran Dwy Ffenest mae Taliesin wrth gwrs yn cynnig cyfle arbennig i awdur o Gymru ‘ddarllen y byd’ a chyflwyno awdur a thestun wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg i’w darllenwyr.
Bob dydd Iau bydd cyfieithiadau
Ond gyda chyn lleied o gyfrolau mewn cyfieithiad yn cael eu cyhoeddi, sut mae dod o hyd i lenyddiaeth byd sydd werth ei darllen tu hwnt i Taliesin?
Nod prosiect Schwob yw cyflwyno clasuron modern Ewropeaidd y dylid eu darllen doed a ddelo. Cefnogir y prosiect gan rwydwaith eang o gyfieithwyr, cyhoeddwyr, gwyliau a sefydliadau llenyddol a chyflwynir y cyfrolau drwy wefan amlieithog yn cynnwys y Gymraeg.
Drwy waith y Gyfnewidfa detholwyd Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard ac A Toy Epic gan Emyr Humphreys i’r rhestr yn 2014.
Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, eto yn Sefydliad Mercator, mae prosiect Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi llunio catalog disgrifiadol ar-lein o gyfieithiadau i’r Gymraeg ym meysydd y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Bob dydd Iau, mae blog y prosiect yn dathlu rhai o’i darganfyddiadau, o gyfieithiadau Cymraeg o waith Pushkin i’r bardd o Tsiena Yuan Mei.
Dyma fideo diweddar o ‘Soned 30’ gan William Shakespeare wedi ei chyfieithu i ddeuddeg iaith:
Clasuron byd yn iaith y nefoedd – beth gewch chi well?