Miriam Elin Jones gafodd drafferth dewis ei ffefrynnau o’r arlwy oedd ar gael …
Dros y penwythnos cynhaliwyd ail Ŵyl Lenyddiaeth Dinefwr, wedi ei drefnu gan Lenyddiaeth Cymru, ar ddaear Castell Dinefwr ger Llandeilo.
Mynychais yr ŵyl am yr ail dro eleni, gan fanteisio y tro hwn ar benwythnos cyfan yno, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef i mi fwynhau’n arw. Fy her i am heddiw yw ceisio crynhoi’r hyn a wnaeth yr ŵyl mor ffantastig yn fy nhyb i a thrafod fy uchafbwyntiau personol mewn blog gymharol fychan.
Sesiynau di-ri ar gael!
Cyn yr ŵyl, treuliais gryn dipyn o amser yn pori trwy’r rhaglen, gan fod GYMAINT o sesiynau amrywiol ar gael.
Penderfynais o flaen llaw pwy i weld ac i ble yr oeddwn yn bwriadu mynd, ac rwy’n falch eithriadol fy mod wedi gwneud hynny, gan na fyddwn wedi gallu manteisio’n llwyr ar brofiad yr ŵyl pe bawn jyst wedi bwrw draw am sgowt rownd.
Un o uchafbwyntiau’r ŵyl i mi oedd lansiad cyfrolau newydd Rhys Iorwerth a Mari George. Maent yn ddau fardd gwahanol iawn i’w gilydd – mae cerddi rhydd Mari George yn disgrifio’r pethau mân sy’n britho’n bywydau o ddydd i ddydd a rhoi arwyddocâd newydd iddynt, tra bod dawn Rhys Iorwerth o ddarlunio’r gynghanedd fel petai’n famiaith iddo yn cyfleu’r teimlad o feddwi, caru, colli a pherthyn. Wedi clywed eu darlleniadau, roedd prynu’r cyfrolau’n anorfod.
Cefais hefyd gyfle i weld sgwrs ddifyr rhwng Geraint Lewis a Jon Gower yn trafod eu cyfrolau straeon byrion diweddar, a mynychu gwersi cynganeddu gyda’r bardd Eirug Salisbury (Mae’n rhaid i mi ddweud, does gan yr un bardd ddim i’w boeni yn ei gylch – dydw i DDIM yn gynganeddwraig dda iawn!).
Roedd yna lawer o sesiynau Cymraeg, ac roedd hi’n ŵyl ddwyieithog, ac roedd hynny’n beth iach, ac yn cyfrannu at naws ffres yr ŵyl.
Er mawr gywilydd, dydw i ddim yn darllen rhyw lawer o Saesneg, ond fe wnes fwynhau darlleniadau gan Rachel Trezise a Tyler Keevil prynhawn ddydd Sadwrn. Bellach rwyf wedi prynu nofel Keevil, ac yn edrych ymlaen at fwrw ati i’w darllen.
Comedi a cherddoriaeth hefyd
Er mai gŵyl lenyddiaeth oedd yr ŵyl yn ei hanfod, roedd yna nifer o ddigwyddiadau eraill hefyd, gan gynnwys adloniant i blant o bob oedran a chomedi. Ar y nos Wener es i i’r noson gomedi Gymraeg, a chwerthin tan fy mod i’n gorwedd ar ben jôcs coch Daniel Glyn a hiwmor bizarre Noel James.
Yn ogystal â hynny, daeth Elis James, sy’n ddigrifwr adnabyddus o Sir Gâr, i berfformio set stand up ar y nos Sadwrn, ac mae fy ffrind a finnau’n DAL i ddyfynnu rhai o’i jôcs gan feddwl ein bod ni’r un mor ddoniol.
Roedd yna lwyfan arbennig ar gyfer cerddoriaeth hefyd, wedi ei drefnu i arddangos rhai o artistiaid y fenter Gorwelion/Horizons yn ystod y penwythnos. Byddwn wedi bod wrth fy modd yn treulio mwy o amser yno, ond digwydd bod, dim ond blas bychan o ambell un y cefais rhwng sesiynau eraill. Dyna’r unig gŵyn sydd gennyf am yr ŵyl mewn gwirionedd, sef fod yna ORMOD o bethau ar gael a minnau’n digalonni nad oeddwn yn gallu mynd i weld popeth.
Fodd bynnag, mwynheais yr hyn a glywais; sef setiau Gabrielle Murphy, Kizzy a Plu, ac rwyf yn edrych ymlaen at weld Gorwelion yn hybu’r artistiaid hyn mewn nifer o wyliau ar draws yr haf.
Gruff Rhys yn coroni’r cwbl
Rhaid i mi gyfaddef, doeddwn i ddim wedi bwriadu mynd i wylio sesiwn olaf yr ŵyl i gyd, gan fy mod eisoes yn ymwybodol y byddai fy nghinio dydd Sul ar y bwrdd adref yn fy nisgwyl.
Roeddwn yn bwriadu gwylio cân neu ddwy gan Gruff Rhys, a gadael … ond wedi i Gruff ddechrau esbonio’i brosiect amlgyfrwng ‘American Interior’, ac adrodd hanes John Evans a’i daith yn chwilio am ddisgynyddion y Tywysog Madog o Gymru yn America, cefais fy nghyfareddu’n llwyr a doedd mynd adref yn ystod y sioe DDIM yn opsiwn.
Dangoswyd ffilm fer a slideshow o ddarluniau i gynorthwyo’r canwr wrth adrodd stori John Evans, ynghyd â pherfformiadau o ganeuon newydd, ac ambell i un cyfarwydd.
Doeddwn erioed wedi bod yn ymwybodol o ddawn Gruff Rhys i adrodd stori, a gyda’i garisma naturiol, llwyddodd i blethu’r ddwy iaith â hiwmor ysgafn i adrodd hanes diddorol John Evans. Dychwelais adref i ginio dydd Sul oer, ond roeddwn yn hapus iawn fy myd, felly doedd fawr o ots gennyf am hynny.
Profiad gwahanol gan bawb
Afraid dweud, gyda nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal, mae’n ddigon posib y byddai modd cael amryw o wahanol adolygiadau o brofiadau’r rhai a fynychodd yr ŵyl.
Fodd bynnag, rwy’n siŵr y byddai bron pob un wedi brolio am y tywydd braf (a chwyno eu bod wedi llosgi yn yr haul …) ac wedi mynd ati i ddefnyddio’r geiriau ‘gogoneddus’ neu ‘godidog’ i ddisgrifio’r lleoliad delfrydol.
Gallaf hefyd fentro dweud y byddai pob un wedi cytuno ar un peth: eu bod wedi mwynhau Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr, a’i bod yn llwyddiant ysgubol eleni eto!
Gallwch ddarllen mwy gan Miriam ar ei blog, neu ei dilyn ar Twitter ar@miriamelin23.