Efa Gruffudd Jones
Mae trigolion Pen-y-bont ar Ogwr wedi penderfynu estyn gwahoddiad ffurfiol i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2017 yn yr ardal.

Gwnaed y penderfyniad mewn cyfarfod cyhoeddus yng nghlwb rygbi’r dref neithiwr.

Yno’n siarad roedd Prif Weithredwr yr Urdd Efa Gruffudd Jones, Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Dyfrig Davies, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a’r Celfyddydau a chynrychiolydd o Gyngor Bwrdeistref Pen-y-Bont ar Ogwr.

Dyma’r cyswllt cyntaf rhwng Adran yr Eisteddfod a thrigolion yr ardal ac fe fydd yr Urdd rŵan yn cychwyn y gwaith o chwilio am enwebiadau ar gyfer y pwyllgor gwaith ac yn trafod dyddiadau’r pwyllgorau testunau.

Sêl bendith

“Mae gwirfoddolwyr yr Urdd a’r cyngor eisoes wedi datgan eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i’r Ŵyl ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr i gyfarfod â thrigolion yr ardal gyda’r gobaith o ddod â’n Prifwyl i’r ardal yn 2017,” meddai Efa Gruffudd Jones cyn y cyfarfod.

Ychwanegodd y cyfarwyddwr Aled Siôn: “Bwriad y cyfarfod hwn yw derbyn sêl bendith yr ardal – y cymdeithasau, mudiadau, sefydliadau a’r trigolion – i wahodd Eisteddfod yr Urdd i’r sir.

“Nid ydym wedi ymweld gyda’r ardal ers Eisteddfod yr Urdd Maesteg yn 1979, a byddai’n braf iawn cynnal ein Eisteddfod Genedlaethol yn y rhan hon o Gymru unwaith eto.”

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yng Nghaerffili’r flwyddyn nesaf ac yn Sir y Fflint yn 2016.