Ian Jones
Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones wedi dweud wrth bwyllgor o Aelodau Seneddol yn San Steffan y dylai’r BBC gynhyrchu mwy o raglenni Saesneg ar gyfer pobol Cymru.
Dywedodd wrth y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon fod “lleihad sylweddol yn y rhaglenni sydd wedi cael eu cynhyrchu a’u comisiynu dros y blynyddoedd yn Saesneg i bobol Cymru”.
Ychwanegodd y byddai creu cystadleuaeth ar gyfer rhaglenni’n “tanlinellu’r gronfa sgiliau yng Nghymru”.
Eisoes, mae rhaglenni Doctor Who a Casualty yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru, ond dywedodd Ian Jones y byddai’n croesawu rhagor o raglenni lleol.
Galwodd am roi’r hawl i’r BBC i gael mwy o ryddid i gynhyrchu rhaglenni yn Saesneg ar gyfer Cymru ac i ddatganoli’r broses gomisiynu.
Mae S4C yn wynebu gostyngiad sylweddol yn y gyllideb i greu rhaglenni newydd, ac mae’n rhagfynegi y gallai gyfateb i 36% o’r gyllideb bresennol.
Mae S4C yn derbyn £76 miliwn o ffi’r drwydded a £6.8 miliwn gan Lywodraeth Prydain, ac fe allai’r gwasanaeth clirlun gael ei ail-gyflwyno erbyn 2016.
Daeth y gwasanaeth Clirlun blaenorol i ben yn 2012.