Mavis Breslin, gweddw Charles Breslin
Fe fydd gweddw un o lowyr y Gleision yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i’r trychineb ar raglen y Byd ar Bedwar heno.
Yn y cyfweliad cyntaf gydag un o’r teuluoedd ers yr achos llys, ddaeth i ben wythnos ddiwethaf, fe ddwedodd Mavis Breslin wrth Y Byd ar Bedwar ei bod hi’n siomedig bod rheolwr Glofa’r Gleision, Malcolm Fyfield, a pherchnogion y pwll ,MNS Mining, wedi eu cael yn ddieuog o ddynladdiad.
Mae hi’n teimlo bod yna nifer o gwestiynau heb eu hateb yn yr achos llys, a bod angen ymchwiliad pellach i ddarganfod pam gafodd y pedwar glöwr eu lladd yng Nghwm Tawe.
Bu farw Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, Garry Jenkins, 39, a David Powell, 50, pan wnaeth 650,000 o alwyni o ddŵr lifo i mewn i’r lofa yn dilyn ffrwydrad ar 15 Medi 2011.
“Dwi’n siomedig iawn beth oedd y jurors wedi penderfynu. Fydda i byth yn credu’r verdict,” meddai Mavis Breslin.
“Fi’n grac iawn bod rhywbeth fel hyn yn gallu digwydd yn y dyddiau hyn. Fy hunan, licen i weld ‘public inquiry’ yn dod mas o fe. Nagw i wedi cael digon o atebion.”
Yn y rhaglen fydd yn cael ei darlledu heno ar S4C, fe fydd Mavis Breslin yn ymweld â’r Gleision, ble fu farw ei gŵr a thri dyn arall. Mae’r cabanau lle’r oedd y dynion yn newid wedi cael eu gadael yn wag ers y trychineb.
“Mae’n drist iawn meddwl taw fan hyn oedd e’n fyw ddiwethaf cyn mynd o dan y ddaear,” meddai.
Y Byd ar Bedwar heno am 9:30 ar S4C.