Neuadd Pantycelyn
Bydd achub Pantycelyn yn annog cenhedlaeth newydd o lenorion i feddwl mewn ffordd wahanol, yn ôl Elis Dafydd …
Fe allech chi ddweud fod heddiw’n ddiwrnod digon tebyg i ddydd Gwener i mi. Dim ond un diwrnod arall yn nhroad y ddaear.
Diwrnod o bryderu ynghylch traethodau. Diwrnod lle’r oedd ’na ddieithriaid yn rhywle’n siŵr o fod yn mwydro am y tywydd. Diwrnod o edrych allan drwy ffenestri a disgwyl rhywbeth gwell i ddod.
Ond roedd dydd Gwener diwethaf fymryn yn wahanol. Roedd myfyrwragedd ifainc Bangor yn deffro o freuddwydion am gig Bryn Fôn yng Nghlwb y Rheilffordd y noson cynt i hangovers poenus.
Ac roedd myfyrwyr Aberystwyth yn aros i weld beth fyddai’r ‘datblygiad cadarnhaol’ o du’r brifysgol oedd wedi gohirio ympryd yr ymgyrch i achub Pantycelyn am 24 awr.
Dau air
Roeddwn i wedi anghofio’n llwyr am yr ympryd a’r datblygiad cadarnhaol ac felly doeddwn i’m yn rhy siŵr beth i’w ddisgwyl pan gefais i alwad ffôn gan ffrind i mi o Aber ryw dro ddechrau’r pnawn.
“Dau air i chdi, Elis. Achubwyd Pantycelyn.”
A dyna gyffroi’n lân. Fe es i’n ôl i mewn i’r stafell fyw a chyhoeddi’r newyddion i weddill trigolion y tŷ, ac yn hwyrach y noson honno roeddwn i a ffrind i mi i lawr yn Aberystwyth yn dathlu’r fuddugoliaeth.
Fe ddiolchodd sawl un i ni am ddod i lawr i ymuno yn y dathlu, ond y gwir amdani oedd nad oedd posib i ni beidio.
Roedd hon yn fuddugoliaeth a hanner – roedd hi’n teimlo felly yn Aberystwyth y noson honno beth bynnag, a dw i’n cofio dweud (gan orliwio, bosib) mai dyma fersiwn ein cenhedlaeth ni o brotest Pont Trefechan a Phenyberth a digwyddiadau arwyddocaol eraill.
Wedi anobeithio
Roedd pawb, fwy neu lai, wedi hen roi’r gorau i obeithio y byddai Prifysgol Aberystwyth yn cadw neuadd Pantycelyn yn agored.
Mae’n debyg nad oedd sawl un a ymgyrchodd yn frwd wedi credu ar unrhyw bwynt yn y frwydr y byddai’r brifysgol yn gwrando arnyn nhw. Roedd pawb fel pe baen nhw’n meddwl mai brwydr fyddai’n cael ei cholli yn y pen draw oedd hon.
Ond nid felly y bu, ac roedd pawb yn syfrdan. Soniodd un ferch am seminar roedd hi wedi bod ynddi yn dilyn y newyddion – hi’n beichio crïo, rhywun arall yn ceisio llunio cerdd i gofnodi’r achlysur, a rhywun arall yn trio cynganeddu ‘Pantycelyn’ a’r darlithydd druan yn cael ei anwybyddu’n llwyr.
Hau had llenyddiaeth newydd
Y peth ydi, dydyn ni fel Cymry ddim wedi arfer ennill brwydrau o’r math yma, ac mae ’na rywbeth yn chwerwfelys yn y ffaith fod cymaint o’n llenyddiaeth ni’n gynnyrch ein colledion ni – o’r Gododdin i farwnad Gruffudd ab yr Ynad Coch i Lywelyn ap Gruffudd hyd at gerddi Ianws yn dilyn refferendwm ’79.
Bardd gorau Cymru erioed, medd rhai, ydi Dafydd ap Gwilym – concwest 1282 a’i gwnaeth hi’n bosib iddo fo ganu fel y gwnaeth o.
Ond er bod ein hanlwc ni fel cenedl wedi cynhyrchu barddoniaeth fawr, fyddai colli Pantycelyn ddim wedi gwneud hynny. O’i chau, cymuned Gymraeg arall a ddiflannodd fyddai Pantycelyn – ac mae ’na ddigonedd o’r rheiny’n barod felly fyddai ’na ddim byd arbennig ynghylch Pantycelyn.
Mae’r fuddugoliaeth yn llawer mwy na fyddai’r golled wedi gallu bod.
Mae’r genhedlaeth sydd yn y prifysgolion ar hyn o bryd yn cynnwys sawl llenor a bardd hynod o ddisglair.
Beth mae achub Pantycelyn yn ei olygu ydi fod ganddyn nhw hyder, fod ganddyn nhw brofiad o ennill brwydrau bychain ond arwyddocaol, profiad o orfodi sefydliad mawr i newid eu meddwl er lles y Gymraeg a’i diwylliant.
Dyma genhedlaeth na fydd yn stopio ar hyn.
A phan fydd y genhedlaeth hon yn aeddfedu, gobeithiaf y gallwn ddisgwyl llenyddiaeth aeddfed, llenyddiaeth gan bobl nad oes ganddynt ormod o brofiad o fyw ar eu gliniau. Llenyddiaeth a fydd, gobeithio, yn gallu cymryd ei lle ochr yn ochr â llenyddiaeth orau ac aeddfeda’r byd.
Gallwch ddilyn Elis ar Twitter ar @elisdafydd.