Rhybudd: Mae’r darn yma’n trafod trydedd bennod ‘35 Diwrnod’ ar S4C. Peidiwch â’i ddarllen os nad ydych chi wedi gwylio’r bennod.

Ciron Gruffudd sydd wedi bod yn gwylio…

Felly, pennod arall o fywyd ar ystâd Crud yr Awel ac mae’r plot, fel maen nhw’n ei ddweud, wedi tewychu rhyw ychydig.

Jan

O leia fe wnaethon ni ddysgu ychydig mwy am y cymeriadau’r wythnos hon. Fel dywedais i yn y bennod gyntaf, peidiwch byth a choelio dim mewn drama nes i chi ei weld o ar y sgrin. Ymddengys, felly, nad yw Jan yn gweithio fel cynorthwyydd hedfan i gwmni awyrennau wedi’r cwbl.

O’n i’n gwybod bod rhywbeth o’i le pan ddywedodd hi ei bod hi’n hedfan o Fryste ond yn gwisgo gwisg goch hynod o debyg i wisg cwmni hedfan dyn busnes llwyddiannus. Ond, wrth gwrs, dyw ei awyrennau o ddim yn hedfan o Fryste!

Felly beth mae hi’n ei wneud yn rhentu tŷ gwag ar ystâd Crud yr Awel tra bod ganddi bartner ac o leiaf un plentyn yn rhywle arall?

Mae hi’n edrych fel ei bod hi yno i ddial – ar Richard o bosibl, ond am beth? Mae un peth yn sicr, mae angen iddi sicrhau ei bod hi’n cloi ei drysau’n well.

Richard a Sali Jenkins

Fe welsom ni fwy o Richard Jenkins a’i wraig Sali hefyd. Mae datgeliad eu perthynas wedi bod yn ddifyr iawn. Mae’r ddau’n amlwg yn gwneud pethau i frifo’r llall ond pwy yw’r un wnaeth chwalu’r berthynas i ddechrau a pham ei fod o wedi  gwaethygu cymaint?

A beth oedd arwyddocâd yr olygfa lle’r oedd Jan yn chwarae gyda thei Richard Jenkins – yr un oedd hi wedi ei ddwyn wythnos diwethaf? Ai tric yw hyn i gyd ac y bydd hi’n lladd ei hun yn y diwedd gan osod tystiolaeth fydd yn pwyntio’r bai ar rywun arall?

Y Morisiaid o Fôn

O leia mae ‘na ychydig o hiwmor ac mae hynny yn y lle mwyaf annisgwyl – yn nirywiad meddyliol Gruff Morris. Does dim amheuaeth fod ganddo neb ond fo’i hun i’w feio am y twll mae o ynddi, ac oherwydd hynny does gen i fawr o gydymdeimlad hefo fo. Ond rhaid cyfaddef mod i wedi mwynhau ei weld o’n meddwi ac yn chwarae gyda tŵls peryglus iawn.

Dwi’n meddwl hefyd mai dyna un o’r prif broblemau gyda’r holl gyfres – dydw i ddim yn malio am yr un o’r cymeriadau ac oherwydd hynny, dwi’n gweld hiwmor mewn dirywiad meddyliol hen ddyn. Dim rhywbeth fydda i’n ei wneud yn rheolaidd.

O ran ei fab o, Ben Morris, roedd hi wedi dod yn amlwg ei fod o wedi stopio cymryd ei feddyginiaethau ac a dweud y gwir, gyda mam fel honna, dwi ddim yn synnu ei fod o wedi llosgi ei law ar haearn ffrio chwilboeth. Yr unig beth y byswn i wedi gwneud yn wahanol yn ei esgidiau o fyddai llosgi fy nghlustiau fel fy mod i ddim yn gorfod gwrando arni ragor.

Huw a Caroline James

Y mwya’ dwi’n ei weld o Caroline James hefyd, y mwya’ dwi’n ei chasáu hi. Mae pwysau bod yn gyflenwr cyffuriau mewn carchar, yn ogystal â bod yn un o’r swyddogion, wedi effeithio ar Huw, ei gwr. Ond dyw hi’n malio dim am hynny – yr unig beth sydd ar ei meddwl yw gwario arian fel petai’n tyfu ar goeden yn yr ardd.

Ac os oes un peth sydd wedi gwneud i mi ei chasáu hi hyd yn oed yn fwy’r wythnos hon, yna’r ffaith fod ganddi lun wedi ei fframio o esgid sawdl uchel gyda fairy lights o’i gwmpas yn yr ystafell fyw, yw hynny.

Y tri arall

Dwi heb cweit ddeall perthynas Pat a Linda yn iawn hyd yma – dwi’n siŵr bod Pat mewn cariad gyda hi ond allai’m bod yn hollol siŵr.

Ac er ei fod o’n ddyn drwg, mi rydw i’n deall rhwystredigaeth Tony gyda’r ffaith fod Pat draw yno trwy’r amser. Y cwestiwn ydi, pryd gawn ni  fel gwylwyr, bwyso’r botwm coch i weld beth sy’n mynd ’mlaen yn y clwb golff pan da ni wedi cael llond bol ar stad Crud yr Awel hefyd?

Siom yr wythnos

Os oes dyn busnes llwyddiannus, a thipyn o ben bach, fel Tony yn brolio fod ganddo 1,892 o fylbiau yn rhan o’i addurniadau Nadolig, yna dwi isio gweld y tŷ yn ei holl ogoniant! Piti garw na chawsom ni’r cyfle.

Moment yr wythnos

Fel mae ambell un wedi ei nodi’n barod, Gruff yn bygwth torri organ rhywiol Pat i ffwrdd gydag offer garddio. Mae Gruff yn prysur hawlio ei le fel fy hoff gymeriad i hyd yma!