Gabriel Garcia Marquez
Mae’r nofelydd o Golombia, Gabriel Garcia Marquez, yn yr ysbyty yn Ninas Mecsico, yn derbyn triniaeth am lid ar ei ysgyfaint ac ar ei bledren.
Mae’r awdur 87 oed, sy’n gyn-enillydd Gwobr Nobel, wedi’i gludo i’r ysbyty ers ddydd Llun.
Meddai llefarydd ar ran yr ysbyty: “Mae’r claf yn ymateb yn dda i’r feddyginiaeth, ac unwaith y bydd o wedi cwblhau ei gwrs o dabledi gwrth-fiotig, fe fyddwn ni’n ei asesu eto.”
Mae mab yr awdur, Gonzalo, wedi cadarnhau nad o ganlyniad i “argyfwng meddygol” y cafodd ei dad ei gludo i’r ysbyty, a bod yna ddim lle i boeni. Mae’n disgwyl i’w dad fynd adre’ ddechrau’r wythnos nesa’.
Mae Gabriel Garcia Marquez wedi byw yn Ninas Mecsico ers mwy na 30 mlynedd.