Bur Hoff Bau
Mae ffilm sy’n olrhain hanes band a chwalodd ddeugain o flynyddoedd yn ôl yn cael ei hail-ddangos i genhedlaeth newydd.

Mae’r ffilm ‘I’r Bür Hoff Bau’ yn adrodd hanes chwalu’r band ‘Bür Hoff Bau’ yn 1974, a chafodd ei dangos yng nghanolfan Chapter, Caerdydd neithiwr.

Fe fydd perfformiad byw gan aelodau’r band – Toplog, Dunkel, Öscil, Wolf, Hepgor a Ned Tapia – o ganeuon oddi ar albwm goll yn y ganolfan nos yfory.

Chwalodd y band ar ôl dianc i gefn gwlad Meirionnydd  i weithio ar yr albwm, gan sicrhau y bydden nhw’n mynd i ebargofiant.

Yr Almaenwr Hans Glaumann sydd wedi creu’r ffilm sy’n olrhain hanes albwm ‘I’r’ na chafodd erioed ei recordio.

Roedd yn cael ei ystyried yn un o brosiectau mwyaf arbrofol y cyfnod.

Diolch i label Klep Dim Trep, fe fydd y band yn cael ail wynt trwy’r ffilm, wedi’i chynhyrchu gan Ffesant, a thrwy’r albwm goll a fydd yn cael ei rhyddhau o’r diwedd.

Mae cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu hanes y band eisoes wedi dechrau, ac mae modd prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau yn Chapter trwy fynd i wefan y ganolfan neu’r band.