Jerry Hunter
Bu bron i nofel newydd Jerry Hunter beidio â gweld golau dydd wrth i’r awdur wrthod cais y Cyngor Llyfrau i addasu’i arddull arbrofol o ysgrifennu.

Mae’r stori sydd yn cael ei hadrodd yn ‘Ebargofiant’ yn dychmygu’n byd yn y dyfodol yn dilyn effeithiau newid hinsawdd, ble mae’r gymdeithas wedi mynd yn gyntefig ac anllythrennog.

Ond elfen fwyaf arbrofol y nofel yw’r iaith y mae Hunter yn ei ddefnyddio, wrth i’r stori agor gyda’r geiriau: “Dwin biw miwn twł. Nid vi dir 1ig1 sin biw miwn twł nd vi dir 1ig1 sin biwn y twł sin gartra i vi.”

Ac fe gyfaddefodd yr awdur mai dim ond ei ystyfnigrwydd ef a arweiniodd at weld y nofel yn cael ei chyhoeddi ar ei ffurf wreiddiol.

“Roedd y Lolfa’n hapus iawn i’w gymryd ymlaen, ond doedd o ddim mor hawdd i sicrhau cefnogaeth gan y Cyngor Llyfrau – mi wnaethon nhw yn y diwedd, chwarae teg iddyn nhw,” esboniodd Jerry Hunter wrth Golwg.

“Ond ar y dechrau doedden nhw ddim mor sicr amdano fo. Roedd yna ryw awgrym yn dod y dylwn i newid yr iaith, a’i wneud yn haws i’w ddarllen – ac fe wnes i wrthod.

“Wedyn mae’n braf ei fod yn dod allan yn y diwedd … mae’n gofeb i styfnigrwydd awdur!”

‘Mor hawdd ag iaith arferol’

Yn ogystal â cheisio goroesi yn y byd cyntefig a geir yn ‘Ebargofiant’ mae’n rhaid i’r prif gymeriad, Ed, roi cynnig ar gamp newydd – mae’n ceisio ysgrifennu.

Does bron neb arall yn meddu ar y gallu hwnnw, ac felly mae hunangofiant y prif gymeriad yn cynnig cipolwg ar y prosesau sy’n dod gyda dechrau llythrennedd.

“Pan ydych chi’n edrych ar dudalen gyntaf Ebargofiant, mae’n edrych yn wahanol,” meddai Meleri Wyn James, sy’n Olygydd Creadigol yng ngwasg y Lolfa.

“Ond mae’n syndod pa mor gyflym mae’r llygaid a’r ymennydd yn arfer â’r ‘iaith’ wahanol hon. Ar ôl ychydig baragraffau roeddwn yn gallu ei darllen a’i deall yr un mor gyflym â nofel fwy arferol ei hiaith.”

Gallwch ddarllen y cyfweliad llawn gyda Jerry Hunter yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.