Roedd llwyddiant i Gymru mewn dau gategori yng ngwobrau’r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd – neu’r Gool Media Keltek – yng Nghernyw neithiwr.

Yn y seremoni gyntaf ym Mhorth Ia (St Ives), enillodd ‘#Fi’ (S4C) y wobr am y rhaglen orau i blant, tra bod ‘Gerallt’ wedi cipio’r Dorch Efydd yng nghategori’r Celfyddydau.

Mae ‘#Fi’ yn gyfres sy’n cynnig mewnwelediad i fywyd plant a phobol ifanc heddiw.

Yn y rhaglen a gafodd ei chyflwyno i’r ŵyl, mae’r pwyslais ar blant sydd wedi colli rhiant neu anwylyd a’r newid byd sy’n deillio o’r golled.

Ymhlith y cyfranwyr i’r rhaglen mae cyflwynydd ‘Stwnsh’, Lois Cernyw.

Cafodd y gyfres ei chynhyrchu gan Eleri Tinnuche a Rachel Evans i Boom Pictures Cymru, a’i chyfarwyddo gan Griff Rowland.

Roedd y gyfres yn herio rhaglen ddogfen am drychineb Senghennydd yn 1913, a gafodd ei chynhyrchu gan Tinopolis, yn ogystal â chystadleuwyr eraill o Galicia, Iwerddon a’r Alban.

‘Enigmatig’

Rhaglen am y bardd Gerallt Lloyd Owen a gipiodd y Dorch Efydd yng nghategori’r Celfyddydau.

Caiff y ffilm-ddogfen am y Prifardd ei disgrifio fel un sy’n “codi’r llen ar gymeriad preifat ac enigmatig”.

Caiff y ffilm ei chyflwyno ar ffurf cyfres o gyfweliadau gyda’r bardd a’i deulu, a thrwy “fynediad ecsgliwsif” i’w gartref.

Mae’n darllen nifer o’i gerddi yn ystod y rhaglen.

Heddiw, fe fydd gwobrau’n cael eu dyfarnu yng nghategorïau Drama Nodwedd, Drama Fer, Adloniant Ffeithiol, Pobol Ifanc a Materion Cyfoes, ac mae modd dilyn y cyfan ar @CelticMediaFest.

Dyma enwebiadau Cymreig heddiw’n llawn:

Tir – Drama Nodwedd

Jam Man – Drama Fer

The Call Centre – Adloniant Ffeithiol

Rownd a Rownd – Pobol Ifanc

Live Longer Wales: The Shape of Wales – Materion Cyfoes