Ceri Jenkins sy’n adolygu’r gyfrol gyntaf mewn cyfres newydd gan Angharad Edwards…

Mae Angharad Edwards yn glanio mewn byd o fampirod yn ei llyfr newydd ‘Deffro’, o’i chyfres newydd Cig a Gwaed.

Yn amlwg mae’r storiâu poblogaidd am y byd goruwchnaturiol wedi creu argraff arni hi gan ei bod hi’n cyfaddef ei bod hi’n dipyn o ffan o ‘Twilight,’ ‘Vampire Diaries’ ‘True Blood’ ‘Angel’ – i enwi dim ond rhai!

A dyna a welwn yn ei nofel gyntaf ym myd y fampirod, ble mae merch yn ei hugeiniau yn ceisio dod i delerau â marwolaeth annisgwyl ei thad, a gwerthu’r cartref teuluol.

Er, cyn i ni gael yr hancesi mas a dechrau llefen, mae’r prif gymeriad – Gwen Harding – yn cwrdd â pherchennog newydd y fferm deuluol, ac yn sicr mae’r rhamant yma’n gwella’r nofel. Wedi dweud hynny, roedd hi’n reit hawdd rhagweld y berthynas yma’n datblygu oherwydd bod plot llyfrau o’r genre yma’n o debyg i’w gilydd!

Ond, rhaid cyfadde’ taw hon yw’r gyfrol gyntaf am fampirod i mi ddarllen yn y Gymraeg ac nad wyf wedi fy siomi.

Cyfrol i bobol ifanc

Mae’r nofel o ramant, cyfrinachau a fampirod yn fy annog i i ddarllen y llyfr nesa yn y gyfres gan fod steil Angharad Edwards o ysgrifennu’n gyfforddus ac yn hawdd darllen.

Buaswn yn annog person ifanc godi hon gan ei bod yn llyfr bach sionc i’w ddarllen rhyw brynhawn bach yn yr ardd dros yr ha’ … gan obeithio cawn rywfaint o haul!

Yn sicr mae’r gyfrol yma’n un da i’w darllen os oes gennych ddiddordeb yn y genre yma, neu eisiau darllen rhywbeth gwahanol.

Gyda stori gadarn, ddealladwy a chymeriadau realistig, rhown y clod i Angharad Edwards wrth iddi greu beth ellir ei alw’n y ‘Twilight  Cymraeg’.