James Gandolfini
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r actor o America James Gandolfini, fu farw ddoe yn 51 oed.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rol yn y gyfres HBO The Sopranos rhwng 1999 a 2007. Bu farw Gandolfini tra ar wyliau yn Rhufain, yn ôl ei reolwyr Mark Armstrong a Nancy Sanders.

Deellir ei fod yn yr Eidal er mwyn mynychu Gŵyl Ffilm Taormina. Credir ei fod wedi marw o drawiad ar y galon.

Mewn datganiad dywedodd HBO bod yr actor yn “dalent fawr ac yn berson addfwyn a charedig.”