Wrth siarad â golwg360, mae un sydd â’i theulu’n hanu o Libanus yn dweud bod straen yr ymosodiadau diweddar gan Israel ar dde Libanus, a’r brifddinas Beirut yn y gogledd, wedi cael cryn effaith ar ei theulu sy’n byw yn y wlad honno ac yma yng Nghymru.
Dywed Elise Farhat y dylai’r cwestiwn ynghylch dynoliaeth gael ei ofyn i Israel, sydd wedi bod yn ymosod ar bentrefi yn ne Libanus, lle maen nhw’n dweud bod “aelodau o Hezbollah” yn llechu.
Bu ymosodiadau ar Beirut ers dydd Gwener (Medi 27), gydag arweinydd Hezbollah, Hassan Nasrallah, wedi’i ladd.
Ond dywed Elise Farhat fod cwestiynau i’w hateb gan wledydd fel y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau hefyd – a hwythau’n parhau i werthu arfau i Israel – am fethiannau hawliau dynol gan Lu Amddiffyn Israel yn Gaza.
Dywed Elise Farhart ei bod hi’n ei chael hi’n anodd derbyn ei bod hi’n byw yn y Deyrnas Unedig, “sy’n waeth na goddefol”.
Mae’r Blaid Lafur wedi atal 30 o drwyddedau allforio arfau i Israel ers iddyn nhw ddod i rym yn San Steffan, ond mae ganddyn nhw 320 o drwyddedau byw ag Israel o hyd.
“Os mai dyma’r ffordd mae’r Blaid Lafur yn ymddwyn, pa obaith sydd yna?” gofynna.
‘Teimlad o euogrwydd’
Cafodd Elise Farhart ei geni yn Ffrainc, ar ôl i’w mam a’i thad orfod symud yn ystod rhyfel cartref Libanus.
Ond mae nifer o’i theulu yn parhau i fyw yno hyd heddiw, er iddi hithau gael ei magu yn Ffrainc.
Dywed nad yw’r “teimlad o euogrwydd” byth yn ei gadael hi na’i theulu, sydd wedi teimlo erioed nad oedd ganddyn nhw unrhyw ddewis arall ond ffoi o’u cartrefi.
“Mae’r un yn wir am aelodau fy nheulu sydd wedi gorfod gadael dros yr wythnos ddiwethaf,” meddai.
“Roeddwn i ar y ffôn efo fy nghefndryd, ac yn y cefndir roeddwn i’n gallu clywed sŵn bomiau yn dod yn agosach ac yn agosach.
“Mi roedd o wir yn brofiad ofnadwy, a rywsut yn anoddach i fi yma oherwydd doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n gallu gwneud unrhyw beth.”
Dywed Elise Farhart, sydd bellach yn byw yn Hen Golwyn efo’i gŵr a’u merch, sy’n dair oed, bod ei merch yn gallu deall bod rhywbeth o’i le, gan fod ei mam ar y ffôn o hyd.
“Mi oeddwn i, a dw i dal mewn cyflwr lle dw i wedi dychryn yn llwyr,” meddai.
Roedd hi’n disgwyl ymweld â’i theulu yn Libanus fis Hydref diwethaf, ond ddaru ymosodiad Hamas ddod â’r cynlluniau hynny i ben.
“Mi oeddwn i a fy nheulu yn gwybod fod y gwrthdaro am ddod i Libanus, ond ddim pryd na pha mor galed – ond rŵan mi ydyn ni’n gwybod.
Gan fod ei theulu hi o dde Libanus, sy’n agos iawn i’r ffin efo Israel, dywed Elise Farhart fod yna “bryder mawr” ynglŷn â’r ffaith ei bod hi’n bosib y gallai’r ardal ddod yn “Gaza newydd”.
“Os ydy pawb yn gadael, pwy fydd yno i amddiffyn y pentref, a phwy fydd yn gwneud yn siŵr fod pobol o Libanus dal i allu byw yno?”
Ond o ganlyniad i ymosodiad diweddar gan Lu Amddiffyn Israel yn y de, mae llawer o bobol o dde Libanus wedi gorfod gadael, gyda’r wlad yn dweud bod mwy na miliwn wedi’u dadleoli.
Teimlad nad yw “Arabiaid ddim yn cyfri”
Wrth drafod sut mae’r wasg yn y Deyrnas Unedig wedi bod yn adrodd am y datblygiadau diweddar yn Libanus, dywed Elise Farhart ei bod hi’n teimlo nad yw “Arabiaid ddim yn cyfri”.
“Y cyfan dw i’n ei ddarllen ar hyn o bryd yw am Hezbollah,” meddai.
“Mae’r wasg yn yr Unol Daleithiau yn canmol yr ymosodiad â Pager, a ddim yn galw allan y ffaith fod yr ymosodiad wedi lladd nifer o bobol ddiniwed.
“Dydi’r dinasyddion ddim efo wyneb, dydyn nhw ddim yn cyfri.
“Dw i’n meddwl mai’r ffordd orau i’w disgrifio nhw (trigolion Libanus) yw fel mwgwd brown. Dydi Arabiaid ddim yn cyfri – dyma sut dw i’n teimlo ar hyn o bryd.”
Mwy o sylw i Wcráin na Libanus
Dywed Elise Farhart ei bod hi’n credu bod y rhyfel yn Wcráin wedi cael mwy o sylw gan y cyfryngau prif ffrwd yn y gorllewin gan fod gan y rhan fwyaf o ddioddefwyr groen gwyn.
“Mae be’ sydd yn digwydd yn Wcráin yn ofnadwy, ac mae o’n torri fy nghalon i,” meddai.
“Ond dw i’n cofio pan gychwynnodd o, roeddwn i’n meddwl am y pethau erchyll sydd yn digwydd yn y byd bob diwrnod.
“Ym Mhalesteina, er enghraifft, hyd yn oed cyn y rhyfel.
“Ond mi roedd yna fflagiau Wcráin ym mhob man, a bron ddim byd i’w weld yma (yng ngogledd Cymru) i gefnogi Palesteina neu Libanus.”
Ychwanega ei bod hi wedi diodde’r un math o ragfarn yn y gweithle hefyd.
Dywed fod y cwmni rhyngwladol mae hi’n gweithio iddo wedi gadael i bobol godi arian i gefnogi dioddefwyr yn Wcráin, ond wedi ei hatal hi rhag gwneud yr un fath i gefnogi dioddefwyr ym Mhalesteina.