Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cyhoeddi bod ffordd newydd o drin cleifion sydd wedi torri asgwrn wedi cael ei lansio ac y bydd yn weithredol ym mhob bwrdd iechyd yn y wlad.
Mae’r Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn Cymru Gyfan yn sicrhau bod proses ar waith ar gyfer cleifion 50 oed a hŷn sy’n torri asgwrn ar ôl cwympo, i asesu a rheoli iechyd eu hesgyrn a’u risg o gwympo, er mwyn lleihau’r risg y byddan nhw’n torri asgwrn eto.
Mae’r gwasanaeth hwn yn diogelu pobol rhag cael eu hanafu dro ar ôl tro yn y tymor hir, ac mae’n ymyrraeth gynnar glinigol a chost-effeithiol i gadw pobol allan o’r ysbyty.
Mae dros £1m o gyllid gan y Rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng a’r Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru wedi helpu i ddatblygu gwasanaethau cyswllt toresgyrn mewn ardaloedd lle nad oedd gwasanaethau o’r blaen, a chefnogi’r gwaith o ehangu a gwella gwasanaethau presennol.
Hyd yn hyn, mae’r cyllid wedi sicrhau bod 13 o Nyrsys Clinigol Arbenigol ychwanegol ac unarddeg o staff gweinyddol wedi cael eu recriwtio i wasanaethau cyswllt toresgyrn ledled Cymru.
Manteision amlwg
“Mae ystadegau’n awgrymu, os bydd rhywun yn torri asgwrn oherwydd breuder, fod siawns ym mhob tri achos y byddan nhw’n torri asgwrn arall o fewn deuddeg mis,” meddai Jeremy Miles.
“Er hynny, mae’n bosib lleihau’r risg hyd at 40% drwy roi’r gwasanaethau priodol ar waith.
“Rwy’n falch iawn o ddweud ein bod wedi cyflawni ein nod o gyflwyno gwasanaethau cyswllt toresgyrn ledled Cymru.
“Bydd hyn yn atal derbyniadau costus i’r ysbyty, gan sicrhau arbedion sylweddol i’r Gwasanaeth Iechyd a chefnogi pobol i barhau i fyw eu bywydau’n hyderus gartref ar ôl cwympo.
“Er hynny, mae’r un mor bwysig cydnabod nad yw’r daith yn gorffen yma, ac mae’n rhaid inni barhau i ddatblygu a gwella’r gwasanaethau hyn i leihau’r effaith mae cwympiadau a thoriadau yn ei chael ar ein Gwasanaeth Iechyd.
“Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn cyhoeddi’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Osteoporosis ac Iechyd Esgyrn ac yn nodi ein disgwyliadau a’n hamserlenni penodol ar gyfer y gwasanaethau hyn a gwasanaethau iechyd esgyrn yn ehangach, i fodloni safonau clinigol cenedlaethol ledled Cymru.
“Rwy’n ddiolchgar i Dr Inder Singh, yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Cwympiadau ac Eiddilwch, am ei waith caled a’i ymroddiad i’r broses bwysig yma o sefydlu’r gwasanaethau hyn ledled Cymru.”
‘Carreg filltir bwysig’
Dr Inder Singh yw arweinydd Grŵp Sicrhau Ansawdd a Datblygu Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn Cymru Gyfan, sydd wedi gweithio’n agos gyda byrddau iechyd a sefydliadau ehangach i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau cyswllt toresgyrn ers eu lansio fel rhan o gynhadledd gyntaf Cymru yn y maes hwn ym mis Hydref 2022.
“Mae heddiw yn garreg filltir bwysig ar y daith i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau cyswllt toresgyrn yng Nghymru,” meddai.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i aelodau’r Grŵp Sicrhau Ansawdd a Datblygu, ein partneriaid yn y trydydd sector, arweinwyr clinigol ar draws y byrddau iechyd a’r staff ymroddedig sy’n gweithio yn y gwasanaethau hyn sydd wedi rhoi o’u hamser a’u cefnogaeth i’n helpu i gyrraedd y pwynt yma.
“Mae ein timau wedi ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau cyswllt toresgyrn sydd o fudd gwirioneddol i bobol Cymru.
“Yng nghyfnod nesaf y gwaith yma, mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn bodloni’r holl safonau disgwyliedig er mwyn gwireddu’r buddion arfaethedig yn llawn.”
‘Cam cyntaf pwysig’
“Gall pobol yng Nghymru fod yn falch mai eu Llywodraeth nhw oedd y gyntaf i sefydlu mandad ar gyfer Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn, a hynny er mwyn rhoi terfyn ar y cylch parhaus o gleifion â thoresgyrn mewn ysbytai,” meddai Craig Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Frenhinol Osteoporosis.
“Erbyn hyn, mae cam cyntaf pwysig wedi’i gymryd ac mae pob bwrdd iechyd acíwt ledled Cymru bellach yn darparu’r gwasanaethau iechyd hyn sy’n newid bywydau.
“Mae’n rhaid inni nawr adeiladu ar y sylfaen yma drwy bennu cynllun fesul cam ar gyfer datblygu pob un o’r gwasanaethau i wasanaethu’r boblogaeth leol gyfan.
“Fel arall, byddwn ni’n parhau i golli cyfleoedd i atal achosion dinistriol o doresgyrn.
“Rydyn ni’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd cynlluniau pellach yn cael eu cyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn.
“Rydyn ni’n ailymrwymo i weithio’n agos gyda’r tîm cryf sydd yno i sicrhau bod pob aelod o’r cyhoedd yn cael ei drin a’i ddiogelu.”