Mae Busnes Cymru yn galw ar fusnesau sydd yn rhan o gadwyn gyflenwi Tata Steel UK i asesu a ydyn nhw’n gymwys am gymorth Cronfa Pontio Hyblyg y Gadwyn Gyflenwi.
Mae’r gadwyn wedi’i darparu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy’r Bwrdd Pontio traws-lywodraethol, ac mae’n cynnig cymorth gwerth £80m.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r cyllid ar gael i fusnesau i’w “helpu â heriau tymor byr y cyfnod pontio, yn ogystal ag i helpu i baratoi ar gyfer cyfleoedd newydd i dyfu”.
Daw gweithgareddau gwneud haearn ar safle Port Talbot i ben heddiw (dydd Llun, Medi 30), wrth i Tata Steel UK roi’r gorau i weithio Ffwrnais Chwith 4 a’r asedau haearn a dur cysylltiedig.
Bydd modd i Tata Steel UK ailddechrau cynhyrchu dur ar safle Port Talbot yn 2027, yn sgìl buddsoddiad gwerth £1.25bn mewn Ffwrnais Arc Drydan gan ddefnyddio dur gwastraff o wledydd Prydain.
Bydd arian y gronfa’n cael ei rannu drwy bartneriaeth rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Busnes Cymru, a bydd modd “cynnig cyngor busnes a chymorth arianol i fusnesau ledled Cymru”.
Mae modd i fusnesau ddatgan eu diddordeb a thrafod eu cymhwyster drwy wiriwr cymhwyster.
Bydd y busnesau sy’n gymwys ar gyfer y pecyn yn gorfod dilyn proses “ddiagnostig drylwyr” cyn cael gwahoddiad i wneud cais am gymorth ariannol.
Annog busnesau perthnasol
“Mae’r busnesau a’r gweithwyr sy’n cyflenwi Tata wedi bod yn teimlo effaith y newidiadau ym Mhort Talbot ers misoedd,” meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a chadeirydd y Bwrdd Pontio.
“Dyna pam y cyhoeddais y gronfa newydd hon o £13.5m o fewn wythnosau ar ôl i’r Lywodraeth newydd yn San Steffan ddod i rym, a dw i wedi gweithio ar fyrder gyda fy mhartneriaid yn Llywodraeth Cymru a’r Cyngor i gael y broses yn barod.
“Dw i’n pwyso ar y busnesau perthnasol i edrych a ydyn nhw’n gymwys am y cymorth ariannol hwn sy’n rhan o’r pecyn ehangach o gymorth rydym yn ei greu.
“Bydd y llywodraeth yn cefnogi gweithwyr a busnesau, waeth beth fydd yn digwydd.”
‘Gofid ac ansicrwydd’
“Mae newyddion diweddar Tata Steel UK wedi peri gofid ac ansicrwydd i lawer o bobol, ymhlith y rheini sy’n gweithio yn y gwaith dur ac ymhlith y nifer fawr sy’n gweithio yn y gadwyn gyflenwi leol,” meddai Rebecca Evans, Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio Cymru.
“Mae’r gronfa hon yn canolbwyntio’n llwyr ar helpu’r busnesau hynny sydd i raddau helaeth yn ddibynnol ar Tata Steel UK ac y bydd cau’r ffwrnais chwith yn effeithio arnyn nhw, i helpu i liniaru’r effeithiau hynny ac i gynllunio ar gyfer dyfodol llewyrchus.
“Byddwn yn annog unrhyw fusnes sy’n rhan o’r gadwyn fusnes i ddefnyddio’r gwiriwr cymhwysedd fel cam cyntaf at gael help trwy Fusnes Cymru.”
Ychwanega Steve Hunt, arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ei fod yn “croesawu lansiad y gronfa newydd hon, fydd yn darparu cefnogaeth hanfodol i’r busnesau niferus sydd wedi dod i chwarae rhan allweddol o fewn cadwyn gyflenwi Tata Steel”.
“Mae’n hanfodol bod cwmnïau o’r fath yn cael eu cefnogi i addasu i newidiadau arfaethedig y cwmni i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot ac mewn mannau eraill ac mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â’i bartneriaid ar y Bwrdd Pontio i wneud hynny,” meddai.
“Mae llawer iawn o arbenigedd wedi’i ddatblygu dros y degawdau diwethaf law yn llaw â chenedlaethau o gynhyrchu dur yn ne Cymru ac mae’n hanfodol ein bod yn cynnal ein gallu i gwrdd ag anghenion y sector yn y dyfodol.”
“Trasiedi” diffyg “strategaeth diwydiannol”
Wrth ymateb i gau’r ail ffwrnais chwyth yng ngwaith dur Port Talbot heddiw, mae Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, yn beio llywodraethau olynol yn San Steffan a Bae Caerdydd am “fethu â datblygu strategaeth ddiwydiannol”.
Gyda hyd at 2,500 o swyddi yn y fantol, dywed fod gwneud dur yn “hollbwysig ar gyfer strategaeth ddiwylliannol Gymreig”, ac mae’n rhybuddio fod rhaid i’r “drasiedi o gau’r ffwrnesi chwyth beidio â diffinio dyfodol ein heconomi”.
Yn dilyn cau’r ffwrnais, “mae’n rhaid i ni gynllunio ar gyfer adfywiad ein diwydiant dur”, meddai.
“Yn ystod yr Etholiad Cyffredinol, fe wnaeth Llafur addo gwell bargen i waith dur Port Talbot.
“Heddiw, mae’r ail o’i dwy ffwrnais chwyth yn cau.
“Mae hyn yn fwy na dim ond ffatri’n cau – dyma ddiwedd ar waith dur Cymru a bywoliaeth gweithwyr di-ri a theuluoedd.
“Mae dirywiad ein diwydiant dur yn ganlyniad uniongyrchol i lywodraethau olynol yn methu â datblygu strategaeth ddiwydiannol.
“Roedden nhw yn esgeuluso cydnabod, heb sector dur cryf, fod y diwydiant ceir, adeiladu llongau a gweithgynhyrchu trwm i gyd yn sicr o fethu.
“Tra bo cenhedloedd eraill yn methu cydnabod pwysigrwydd hanfodol cynhyrchu dur domestig a rhoi cymhorthdal iddo, dewisodd y Deyrnas Unedig breifateiddio a gwerthu ein hasedau dur i endidau tramor, gan ein gwneud yn ddibynnol ar fewnforion.
“Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro o blaid pwysigrwydd strategol gwneud dur i fuddiannau economaidd Cymru, diogelwch cenedlaethol, a’r llwybr i sero net.
“Mae’n siomedig tu hwnt bod y ddwy blaid yn San Steffan wedi caniatáu i hyn ddigwydd.
“Ni allwn adael i’r drasiedi hon ddiffinio dyfodol ein heconomi; rhaid inni nawr gynllunio ar gyfer adfywiad ein diwydiant dur a’r swyddi medrus iawn mae’n eu darparu.”
‘Diwrnod trist iawn i Gymru’
“Mae heddiw’n ddiwrnod trist iawn i Gymru, ac yn enwedig i’n cymunedau cynhyrchu dur,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae colli cynhyrchu dur traddodiadol yng Nghymru’n ergyd eto fyth i’n treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol.
“Rhaid i ni ofyn i ni ein hunain a yw ein strategaeth ddiwydiannol wir yn gweithio o’n pliad, a chreu tir gwastad o blaid ein cymunedau.”
Caiff y tristwch ei ategu gan Samuel Kurtz, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi ac ynni.
“Mae heddiw’n ddiwrnod trist i gymuned oedd, mewn nifer o ffyrdd, wedi adeiladu’r wlad hon,” meddai.
“Rhaid i ni gydnabod cyfraniad anhygoel y gweithlu dros y blynyddoedd, a nawr mae’n rhaid i’r ddwy lywodraetgh weithio’n ddiflino i sicrhau trawsnewidiad cyfiawn, go iawn.
“Mae yna ddyfodol disglair i gynhyrchu dur, y gweithlu a chymuned ehangach Port Talbot, a rhaid canolbwyntio’r holl ymdrechion ar wireddu’r cyfleoedd hyn.”