Mae diwrnod arall wedi mynd heibio yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, a chyfle felly i ni gael cipolwg ar rai o bynciau trafod y maes heddiw yn ein podlediad dyddiol yma o Feifod.
Yr iaith Gymraeg a darlledu yw dau o’r pynciau llosg mawr heddiw, wrth i ni drafod addysg a dyfodol yr iaith yn ogystal â beth nesaf i’r cyfryngau yng Nghymru.
Yn ymuno â Iolo Cheung ar y pod heddiw mae cyn-wleidydd Plaid Cymru Cynog Dafis, a fu’n rhan o lansiad rhaglen weithredu Dyfodol i’r Iaith sydd yn galw ar bleidiau gwleidyddol Cymru i gymryd camau mewn sawl maes i ddiogelu a thyfu’r iaith.
Ar ddiwrnod ble bu protest gan Gymdeithas yr Iaith ynglŷn ag ysgolion ym Mhowys, mae addysg hefyd yn cael sylw yn y drafodaeth.
Ond mae dyfodol darlledu yng Nghymru hefyd yn cael sylw, gyda’r bargyfreithiwr Gwion Lewis yn trafod yr heriau cyfryngol i ddod ac awgrymu ei bod hi’n hen bryd cael ail orsaf radio yn y Gymraeg.
Mae ganddo hefyd awgrym heriol ynglŷn â dyfodol ariannu’r cyfryngau yng Nghymru – a yw hi’n bryd ystyried treth neu lefi ychwanegol?