Bathodynnau pili pala i gofio Arwyn Ty Isaf
Bydd noson werin arbennig yn cael ei chynnal ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod heno i gofio Arwyn Evans, neu Arwyn Tŷ Isaf o Lanfair Caereinion, oedd yn gyn-arweinydd Aelwyd Penllys.
Roedd canu gwerin “yn agos iawn” at galon Arwyn Tŷ Isaf yn ôl Beryl Vaughan, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, ac mae’r cyngerdd nos Fawrth yn rhan o ddiwrnod i gofio’r gŵr ar faes yr Eisteddfod.
Cyn yr Eisteddfod eleni roedd Beryl Vaughan wedi gwneud taith gerdded codi arian ar hyd llwybr arfordir Cymru i gofio am Arwyn Tŷ Isaf, a’r wythnos hon mae bathodynnau pili palas hefyd wedi cael eu gwerthu ar y maes gyda’r elw’n mynd i gronfa fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg yn yr ardal.
Bydd Plu, Calan, Gwenan Gibbard a Georgia Ruth ymysg y cerddorion yn y Pafiliwn heno.
Beryl Vaughan yn siarad am y diwrnod i gofio Arwyn Tŷ Isaf: