Y rali ar faes yr Eisteddfod heddiw
Mae angen brys am addysg Gymraeg ar drigolion Sir Powys, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, wrth iddyn nhw gynnal rali ar faes yr Eisteddfod ym Meifod heddiw.
Bu’r ymgyrchwyr iaith yn pwysleisio nad oes yr un ysgol uwchradd benodedig Gymraeg ym Mhowys, gyda nifer o blant yn gorfod teithio allan o’r sir am eu haddysg.
Gorymdeithiodd oddeutu 50 o bobl drwy’r maes at stondin Cyngor Powys i ddatgan eu pryder.
Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith fod “angen gweld arweinaid” gan y Cyngor, ac mae aelodau lleol y mudiad wedi pwyso am newidiadau i gynllun datblygu lleol y sir sydd yn cynnwys lleihau’r cyfanswm o 6,071 o dai.
Fideo o’r rali gan gynnwys araith Dafydd Iwan a sgwrs ag Arwyn Groe, Bedwyr Fychan a Jane Dodds:
“Cywilydd”
Siaradwyr y brotest oedd y bardd a’r ymgyrchydd lleol Arwyn Groe, y cerddor a chyn-gadeirydd y Gymdeithas Dafydd Iwan, a Hywel Lovgreen, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Dafydd Llwyd yn y Drenewydd, yr unig ysgol gynradd Gymraeg yn yr ardal.
Dywedodd Arwyn Groe, fod ganddo, ar brydiau “gywilydd” ei fod yn dod o Sir Drefaldwyn cyn arwain y gorymdaith i gyflwyno eu neges.