Mari Lisa, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2015
Mari Lisa, merch sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn ym mro’r Eisteddfod yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn heddiw.
Tasg y rheiny a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau, a’r wobr yw Medal Goffa Daniel Owen a £5,000.
Yn wreiddiol o Lanwrin ym Maldwyn, mae Mari Lisa’n byw yng Nghaerfyrddin erbyn hyn ac yn gweithio fel cyfieithydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd.
Mari Lisa yn siarad â Golwg360 y prynhawn yma ar ôl ennill Medal Goffa Daniel Owen:
Talwrn y Beirdd
Enillodd Fedal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd yn 1985, a choron yr Urdd yn Nyffryn Ogwen y flwyddyn ganlynol. Hi oedd awdur sioe gerdd yr ysgolion cynradd pan ymwelodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd â Maldwyn yn 1988.
Mae Mari Lisa’n ymddiddori mewn barddoniaeth yn ogystal â rhyddiaith, ac mae wedi ennill amryw gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol. Mae’n llais rheolaidd ar raglen Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru, ac wedi cyfrannu at dimau ymryson Caerfyrddin a Maldwyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Er iddi gyhoeddi sawl stori fer eisoes, a chyfieithu un o nofelau PD James ‘Ar Gortyn Brau’, dyma’i nofel hir gyntaf.
Mae’n briod â Huw ac mae ganddynt un ferch, Beca.
‘Twyll, brad a dichell’
Y beirniaid oedd Robat Arwyn, Angharad Price a Dewi Prysor, gyda Robat Arwyn yn traddodi’r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid yn ystod y seremoni.
Cafwyd cryn drafodaeth ymysg y beirniaid am ddwy o’r nofelau, Iddew gan Kata Markon a Veritas gan Abernodwydd, gyda Dewi Prysor yn dewis Iddew fel ei hoff waith yn y gystadleuaeth, a Robat Arwyn ei hun ac Angharad Price yn dewis Veritas. Ond er y gwahaniaeth barn, daeth y tri beirniad i gytundeb yn y pendraw, a gwaith Abernodwydd aeth â hi yn y gystadleuaeth eleni.
Meddai Robat Arwyn: “Dim ond canmoliaeth sydd gan y tri ohona ni i’r gwaith sy’n nofel ddirgelwch, sy’n atgoffa rhywun o’r ‘Da Vinci Code’ gan Dan Brown. Mae’n nofel sy’n ein tywys ar antur ar draws Cymru wrth i’r dirgelwch ein harwain yn ôl trwy’r canrifoedd er mwyn datrys digwyddiadau dychrynllyd y presennol.
“Mae ‘na gyffro a chliwiau, brad a chynllwyn, hanes ac etifeddiaeth, ac mae’r cyfan yn llifo’n rhwydd wrth symud o un olygfa i’r llall. Mae’r cymeriadau’n grwn a chofiadwy, ac mae’r ddeialog yn ddifyr, yn ffres a naturiol. Er yn nofel ddiogel, mae digon o olygfeydd cignoeth i greu ias a thensiwn, a digon o dwyll, brad a dichell i’n cadw ar y bachyn hyd at y diwedd un.”