Liz Saville Roberts
Mae pryder mawr fod gwleidyddiaeth heddiw yn amddifadu pobol ifanc, yn ôl Aelod Seneddol mwyaf newydd Plaid Cymru, Liz Saville Roberts.
Fe fu’r gwleidydd yn annerch yn yr Eisteddfod heddiw am y tro cyntaf ers cael ei hethol ym mis Mai, gan drafod amryw o bynciau gan gynnwys ei hargraffiadau cyntaf o San Steffan, y gyllideb ddiweddar a pherthnasedd gwleidyddiaeth i bobol ifanc.
Pwysleisiodd fod angen i lywodraethau wneud mwy i gefnogi pobol ifanc a’u hannog i ymwneud â gwleidyddiaeth drwy bleidleisio.
“Mae mynd heb bleidlais fel mynd heb lais,” meddai Liz Saville Roberts.
Beirniadu’r Gyllideb
Enillodd Liz Saville Roberts sedd Dwyfor Meirionnydd yn Etholiad Cyffredinol 2015 ar ôl ymddeoliad Elfyn Llwyd.
Wrth siarad ar faes yr Eisteddfod heddiw, mynnodd fod angen gostwng yr oedran bleidleisio i 16 gan nodi bod refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014 yn brawf ei bod hi’n bosib creu bwrlwm gwleidyddol ymysg pobl ifanc.
Roedd hi hefyd yn feirniadol iawn o benderfyniadau diweddar Canghellor San Steffan, George Osborne, gan feirniadu arfer gwleidyddion o warchod eu pleidleisiau ar draul buddiannau pobol eraill, yn enwedig pobol ifanc.
Roedd y gyllideb, ym marn Liz Saville Roberts, yn “collfarnu’r to iau”, ac ychwanegodd fod “terminoleg y Canghellor yn rymus ond nid y realiti”.