Mae’n ddechrau wythnos yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, a dechrau hefyd felly i gyfres arall o bodlediadau Golwg360 o’r Brifwyl!

Wrth i’r ymwelwyr gyrraedd yn eu niferoedd heddiw mae criw Golwg360 hefyd wedi bod allan yn dod a’r newyddion diweddaraf i chi a chael cip ar beth sy’n digwydd ar y maes.

Ar ddiwrnod y coroni heddiw mae gennym ni gyn-enillydd y Goron ar y pod, wrth i Hywel Griffiths ymuno â ni i sgwrsio am ei ddiwrnod ef ar y maes ac arlwy’r babell Wyddoniaeth.

Mae cyfarwyddwr gwefan ffrwti.com, Rhodri ap Dyfrig, hefyd ar y pod a hynny ar ôl iddo gymryd rhan mewn sgwrs banel heddiw ar ddyfodol darlledu yn y Gymraeg.

Ac yn ogystal â thrafod beth sydd wedi bod yn digwydd ar y maes, mae gan y ddau gŵyn – ble mae’r gwasanaeth wi-fi?