Manon Rhys gyda'r Goron
Manon Rhys yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni.

Cafodd ei choroni mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn ym Meifod heddiw.

Yn enedigol o Gwm Rhondda, mae gwreiddiau Manon Rhys yn ardaloedd Aberaeron a Thregaron. Mae hi’n fam i Owain Rhys a Llio Mair Rhys, ac yn byw yng Nghaerdydd ers deng mlynedd ar hugain gyda’i gŵr y Prifardd Jim Parc Nest.

Mae’n ferch i’r athro, bardd, a dramodydd J Kitchener Davies.

Mae hi’n awdur nifer o gyfrolau rhyddiaith, gan gynnwys y nofel Neb ond Ni a enillodd iddi’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Wrecsam a’r Fro 2011.

Cydolygodd y cylchgrawn llenyddol Taliesin gyda Christine James am gyfnod o ddeng mlynedd a bu’n  golygu, ymhlith cyfrolau eraill, y gyfrol Cerddi’r Cymoedd, a chydolygu, ynghyd â’r Athro M Wynn Thomas,
J Kitchener Davies: detholiad o’i waith sef y casgliad cyflawn o weithiau ei thad. Am nifer o flynyddoedd bu’n sgriptio cyfresi teledu megis Almanac, Pobol y Cwm ac Y Palmant Aur.

Sgwrs â Manon Rhys wedi iddi gael ei choroni heddiw:

‘Breuddwyd’

‘Breuddwyd’ oedd thema’r gystadleuaeth eleni, a’r dasg oedd creu casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau, ac ymgeisiodd dau ar hugain o feirdd yn y gystadleuaeth.

Y beirniaid oedd Cyril Jones, Nesta Wyn Jones a Gerwyn Wiliams, a dengys y beirniadaethau ei bod yn gystadleuaeth glos eleni, gyda chanmoliaeth fawr i waith mwy nag un bardd, a’r penderfyniad terfynol yn un y bu’n rhaid ei drafod yn ofalus.

Ond, roedd y tri yn gytûn yn y pendraw mai gwaith ‘Jac’ oedd flaenaf yn y gystadleuaeth eleni.

‘Anesmwytho’

Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan ar ran ei gyd-feirniaid, dywedodd Cyril Jones: “Casgliad sy’n anesmwytho’r darllenydd yw hwn, gan ei fod yn archwilio’r tir neb rhwng breuddwyd a hunllef. Mae hyd yn oed arddull y cerddi’n cyfleu hynny gan fod pump ohonynt wedi’u hatalnodi a’r naw arall yn ddiatalnod a’u cywair yn pendilio rhwng darnau mwy ffurfiol a thafodiaith de-orllewin Cymru.

“Dau brif gymeriad y casgliad yw’r fam a’i phlentyn a cheir yn y cerddi gymysgedd o elfennau megis colled a cholli pwyll, trais a marwolaeth, a’r rheini wedi’u cadwyno â theitlau sy’n ddywediadau diniwed y plentyn ond yn aml ag arwyddocâd sinistr iddynt; er enghraifft, ‘odi cysgu wedi bennu nawr’.

“Mae gafael y bardd hwn ar ei iaith – a’i dafodiaith – yn gwbl gadarn…

“Mae’n defnyddio sawl techneg gynnil i greu dirgelwch ac arswyd. Mae’r gyfeiriadaeth, er enghraifft, yn arswydus o awgrymog ac yn tanio atgofion a meddyliau lled dywyll yn ein dychymyg.

“Mewn sawl cerdd, hefyd, mae’n cymysgu’r enw ‘drysi’ a’r berfenw ‘drysu’ yn fwriadol ac yn cyfeirio’n aml at gymeriad bygythiol ‘Jac y broga-gorryn’. Maen nhw’n cyfleu natur ddarniog breuddwyd i’r dim; darnau o’r un freuddwyd yw’r cerddi sy’n mynnu herio’n crebwyll wrth i ni geisio canfod patrwm a llinyn storïol – yr union deimlad a geir ar ôl dihuno a deall arwyddocâd breuddwyd hunllefus. Dyma gasgliad a fynnai ymdroi yn y cof a dychwelyd i anesmwytho a herio.”

Y Goron

Rhoddir y Goron eleni gan Gymdeithas Cymru-Ariannin, a’r wobr ariannol gan y teulu er cof am Aur ac Arwyn Roberts, Godre’r Aran, Llanuwchllyn.  Lluniwyd y Goron gan y gof arian, John Price, cyn athro crefft a gwneuthurwr nifer o goronau eisteddfodol cain a gofynnwyd iddo gyfleu’r berthynas agos sy’n bodoli rhwng y Cymry a’u cefndryd yn Nhalaith Chubut wrth ei chreu.