Uchafbwynt y dydd ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Caerffili heddiw oedd y cadeirio, gydag Elis Dafydd yn cipio’r wobr fawr.

Ac mae’n fraint felly gallu croesawu’r bardd buddugol i bodlediad Golwg360 o’r maes Dydd Iau – ynghyd â’r bardd a gipiodd y Gadair llynedd, Gruffudd Antur.

Lle i ddechrau heblaw am gystadleuaeth y Gadair, felly, wrth i Elis a Gruffudd gymharu eu profiadau o ennill, a cheisio cuddio hynny oddi wrth eu ffrindiau agos a phobl ar y maes!

Mae’r ddau hefyd yn trafod eu hysbrydoliaeth ar gyfer barddoni, ac yn sôn am eu profiadau a’u hargraffiadau o faes yr ŵyl yn Llancaiach Fawr eleni.

Gallwch hefyd wrando nôl ar bodlediadau eraill yr wythnos hon gan gynnwys sgwrs gyda Trystan Ellis-Morris dydd Llun, Betsan Powys ac Ynyr Roberts dydd Mawrth, a Steffan Prys Roberts a Heledd Lewis dydd Mercher.