Prosiectau'r disgyblion
Mae disgyblion o Ysgol Llangynwyd wedi bod yn dangos ffrwyth eu llafur ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili ar ôl bod yn treialu Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd.
Bydd y cymhwyster diwygiedig yn cael ei lansio ym mis Medi 2015, ar yr un pryd a’r corff rheoleiddio cymwysterau newydd, Cymwysterau Cymru.
Cafodd yr Her Fenter a Chyflogadwyedd ei threialu gan ddisgyblion yr ysgol, gyda grwpiau o entrepreneuriaid y dyfodol yn gorfod amlinellu syniadau busnes eu hunain.
Ffon gof, ffedog, cas ffôn a fflip fflops
Cafodd cynyrchiadau pedwar grŵp o’r disgyblion eu harddangos ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw gyda’r grwpiau o Ysgol Llangynwyd wedi mynd ati i greu ffon gof, ffedog, cas ffôn a fflip fflops.
Mae’r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi mynnu eisoes y bydd y newidiadau i Fagloriaeth Cymru “wedi ei groesawu gan fyfyrwyr, athrawon a rhieni yn ystod y cyfnod treialu”.
Dyma gydlynydd rhanbarthol y Fagloriaeth, Leah Maloney, yn esbonio mwy am y cynllun, a rhai o’r disgyblion yn trafod eu prosiectau: