Dyma ni wedi dod at ddiwedd y tridiau cyntaf ar faes Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cyffiniau, ac felly mae podlediad dyddiol Golwg360 yma eto i gael cip ar beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen ar y maes heddiw.

Dydd Llun mi fuon ni’n sgwrsio â Trystan Ellis-Morris, a ddoe tro Betsan Powys ac Ynyr Roberts oedd hi i ymuno â ni ar y Pod Steddfod.

Yn ymuno â Iolo Cheung am sgwrs heddiw mae un o drefnwyr cynorthwyol yr Urdd, Steffan Prys Roberts, ac enillydd y Fedal Ddrama llynedd Heledd Lewis.

Mae’r ddau yn siarad am eu diwrnodau ar y maes, ac yn trafod y ddarpariaeth i blant a phobl ifanc yn Eisteddfod yr Urdd, yn ogystal ag edrych yn ôl ar lwyddiant Côr Glanaethwy yng nghystadleuaeth Britain’s Got Talent.

Mae Heledd hefyd esbonio’i theimladau hi wrth weld ei gwaith buddugol o llynedd yn cael ei drosi ar gyfer y theatr a radio.

Gwrandwch ar y podlediad yma: