Blodeuwedd - cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol
Mae enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd wedi galw ar gwmnïau drama cenedlaethol a lleol i lwyfannu mwy o ddramâu newydd, yn hytrach nag ail-gylchu’r un rhai.

Mae gweithiau fel ‘Blodeuwedd’ yn haeddu eu lle ar y podiwm llenyddol, ond mae’n “braf” gweld pethau gwreiddiol yn cael llwyfan, meddai Ffion Haf o Abergwaun.

Fe aeth hi cyn belled a dweud y byddai’n well ganddi weld ei gwaith yn cael ei lwyfannu nag ennill y Fedal Ddrama – er ei bod hi’n ddiolchgar iawn o’r anrhydedd.

Mewn sgwrs â golwg360, dywedodd:

“Mae rhai dramâu Cymraeg ffantastig ar gael ond dwi’n meddwl bod angen i fwy o bethau newydd gael eu sgwennu. Mae’r Theatr Genedlaethol yn tueddu i ail-wneud pethau ond mae’n neis gweld rhywun fel Theatr Bara Caws yn perfformio gwaith newydd a rhywun fel Llyr Titus yn cael cyfle.

“Mae pethau fel Blodeuwedd yn glasur am reswm ond mae eisiau mwy o bethau newydd.

“Byddai well gen i’r cyfle i weithio hefo rhywun fel y Theatr Gen na derbyn y fedal – ddim nad ydw i’n ddiolchgar am y fedal – ond y profiad sy’n dod gydag ennill sy’n bwysig.”

Ffion Haf yn siarad am ei drama buddugol: