Mae tudalen ar wefan gymdeithasol sy’n cofnodi dyfyniadau diddorol gan ymwelwyr Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch wedi denu bron i 1,700 o bobl.

“Ti’m yn gwybod be ’di trafferth cyn i chdi drio ffitio telyn i fewn i garafán!” yw un o’r dyfyniadau sydd wedi eu cynnwys ar y dudalen facebook hwyliog.

Cafodd y dudalen ‘Ofarhŷrd ar faes yr Urdd’ ei chreu ar ddechrau’r wythnos, ac mae dros 300 o bobl wedi ymweld â’r dudalen ers amser cinio heddiw yn unig.

Cliciwch yma am fwy o’r dyfyniadau.