Jemima Nicholas
Digwyddodd cyd-ddigwyddiad hanesyddol yn ystod y brif seremoni yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili y prynhawn ‘ma.

Dros ddwy ganrif ar ôl i Jemima Nicholas wneud ffafr fawr a phobol Abergwaun trwy lwyddo i wrthwynebu glaniad y Ffrancwyr ym Mhencaer, mae merch o’r un enw wedi gwneud ffafr arall.

Un o ardal Abergwaun hefyd yw enillydd y Fedal Ddrama, Ffion Haf – ond merch o’r enw Jemima Nicholas, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, oedd yn ei chyfarch ar lwyfan y Pafiliwn.

Hanes

Roedd Jemima Nicholas, sydd hefyd yn cael ei galw yn Jemima Fawr, yn cael ei hadnabod fel arwres yn dilyn Brwydr Abergwaun yn 1797.

Yn ôl yr hanes, fe wnaeth hi erlid deuddeg o filwyr o Ffrainc ar ei phen ei hun a mynd â nhw i’r swyddfa heddlu agosaf er mwyn iddyn nhw gael eu carcharu.

Mae plac i’w choffau yn Abergwaun.