Rhodri Llwyd Morgan
Mae Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Rhodri Llwyd Morgan, wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn “derbyn bod siom” ymysg y myfyrwyr dros ddyfodol Neuadd Pantycelyn.

Yr wythnos diwethaf, gwnaeth y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth argymell y dylai’r adeilad gael ei chau fel neuadd breswyl o fis Medi ymlaen.

Ond mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) wedi ymateb yn ffyrnig i’r cynlluniau, gan ddweud y bydd eu hymgyrch brotestio “yn dwysáu” dros y dyddiau ac wythnosau nesaf.

Dyma ran o’r cyfweliad â Rhodri Llwyd Morgan yn trafod argymhelliad y brifysgol:

Cau “dros dro”

Wrth siarad â golwg360 ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili, dywedodd Rhodri Llwyd Morgan bod yn rhaid i’r neuadd gau “dros dro” i fyfyrwyr oherwydd problemau â’r adeilad.

Mae’r brifysgol wedi cyhoeddi blog yn manylu ar y gwaith adeiladu sydd ei angen, gan gynnwys ail-wifro ac ymdrin â materion diogelwch tân.

Ond er bod angen gwneud “rhai o’r pethau mwy brys” yn fuan, yn ôl Rhodri Llwyd Morgan, cyfaddefodd y gallai’r adeilad gael ei ddefnyddio ar gyfer swyddfeydd dros dro.

“Beth sy’n amlwg yw bod gennym ni adeilad sydd wedi gwasanaethu’r brifysgol ers 64 o flynyddoedd erbyn hyn, ac mae angen cynllun adnewyddu cynhwysfawr ar yr adeilad,” meddai Rhodri Llwyd Morgan.

“Mae hwnna’n golygu bod rhaid i ni edrych ar faterion yn ymwneud â’r tymor byr [ac felly wedi penderfynu] dros dro ac yn edrych i’r blynyddoedd nesaf, bod hi’n well i ni beidio â chynnig Neuadd Pantycelyn i fod ar gael fel llety myfyrwyr o fis Medi.”

Tair blynedd o waith

Cyfaddefodd Rhodri Llwyd Morgan hefyd y gallai’r gwaith adnewyddu i’r adeilad gymryd “hyd at dair blynedd” i’w wneud, gan ddweud nad oedd modd rhoi addewid pendant ynglŷn â dyddiad ailagor i Bantycelyn fel llety myfyrwyr.

Mynnodd fodd bynnag bod y brifysgol yn ymrwymedig o hyd i ddarparu lle i’r gymuned o fyfyrwyr Cymraeg ffynnu.

“Ni’n mynd i gadw llety penodedig cyfrwng Gymraeg ar gyfer mis Medi a fydd hefyd â darpariaeth gofod cymdeithasol neilltuol i’r myfyrwyr hynny sydd yn dymuno bod gyda’i gilydd,” meddai.

Awgrymodd, fodd bynnag, ei bod hi’n bryd i’r myfyrwyr dderbyn bod angen iddynt bellach ganolbwyntio ar drafod eu dyfodol o fewn neuadd wahanol dros dro, yn hytrach na pharhau i ymgyrchu i aros yn yr adeilad presennol.

“Dw i’n derbyn bod siom ymhlith myfyrwyr, darpar fyfyrwyr sydd yn gwneud cais i ddod i Bantycelyn, a siom yn rhengoedd UMCA,” meddai Rhodri Llwyd Morgan.

“Dyw hyn ddim ynglŷn ag egwyddor cymuned Gymraeg, dyw hyn ddim ynglŷn ag egwyddor gofod cymdeithasol, mae’n ymwneud ag anghenion adeilad sydd yn hwyrach yn mynd i orfod cau o safbwynt defnydd pan mae gwaith adnewyddu helaeth yn gallu digwydd.”

Siarad yn “eithafol”

Ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw, awgrymodd Llywydd y Dydd Morgan Hopkins, sydd yn gyn-fyfyriwr ym Mhantycelyn, bod y drafodaeth dros ddyfodol y neuadd wedi mynd yn rhy “eithafol”.

“Mae’n anodd dros ben, achos mi ges i amser anhygoel ym Mhantycelyn, ffindes i fy ngwraig i yno!” meddai’r actor a’r diddanwr.

“Dw i ddim yn gwybod os mai un neuadd yw’r ateb, neu ryw fath o ddatblygiad arall.

“Mae pobl yn siarad bach yn eithafol am y sefyllfa yn fynna, dyw hynny ddim yn help, dyw creu gelynion ddim yn help. Bysen i’n hoffi tasa pobl yn mesur beth maen nhw’n ei ddweud twtch yn fwy.”

Bydd fideo llawn o’r cyfweliad â Rhodri Llwyd Morgan yn cael ei chyhoeddi maes o law.

Stori: Iolo Cheung