Ffion Haf, enillydd y Fedal Ddrama
Mae Medal Drama Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015 wedi ei chyflwyno i ferch sydd eisoes wedi profi llwyddiant ym myd drama a llenyddiaeth – Ffion Haf Williams o Gylch Abergwaun, Sir Benfro.

O dan y ffug enw Liszt, cafodd ei chanmol gan y beirniad am waith “aeddfed” a fedrai gael ei berfformio ar lwyfan yn syth.

Mae Ffion Haf yn fyfyrwraig yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, wedi iddi raddio hefo gradd dosbarth cyntaf o Brifysgol Bangor y llynedd.

Mae hi eisoes wedi profi llwyddiant ym maes y ddrama a llenyddiaeth.

Mi enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Rhyngolegol wrth astudio ym Mangor, ac mae wedi ennill Cadair Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Sir Benfro deirgwaith.

Perthynas

Y dasg eleni oedd  sgwennu drama lwyfan un act sy’n cymryd rhwng 40 -60 munud i’w pherfformio a phwnc y gwaith buddugol oedd y berthynas rhwng disgybl ac athro piano.

Daeth 13 o geisiadau i law ac roedd rhinweddau positif yng ngwaith pob un, yn ôl y beirniaid, y dramodydd Dafydd James ac Elin Bowman.

“Dyma ddrama fwyaf cyflawn y gystadleuaeth. Mae Ffion yn deall beth yw hi i blethu naratif, cymeriadu, deialog, cerddoriaeth a ffurf i greu cyfanwaith sy’n argyhoeddi’n llwyr y medrid ei pherfformio ar lwyfan heddiw,” meddai Dafydd James wrth draddodi’r feirniadaeth.

“Mae’n gwybod beth yw hi i ddatgelu gwybodaeth ddramatig mewn modd cynnil ac roeddem wedi ein cyfareddu’n llwyr gan amwysedd y berthynas ganolog. Braf hefyd oedd clywed tafodiaith y Gorllewin ac mae’r defnydd o’r gerddoriaeth a’r piano yn gelfydd.”