Drwy gydol wythnos Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr bydd Golwg yn sylwebu o’r Maes gyda chynnwys aml-gyfrwng drwy sawl porth.
Daw sylwebaeth o’r Brifwyl drwy gylchgrawn Golwg, sylwebaeth ar-lein Golwg360.com, Trydar @Golwg360, cynnwys YouTube Golwg Tri Chwech Dim, yn ogystal â phigion fideo drwy gyfrwng ApGolwg.
O’r Maes bydd Iolo Cheung (@iolocheung), Non Tudur (@celfgolwg), Gareth Pennant (@GarethPennant), Emyr Young (@EmyrYoung), Sion Richards a Rhys Evans yn gweithio fel rhan o’r tîm cynhyrchu, gyda sylwebaeth newyddiadurol, fideos a podcast dyddiol i gyd yn rhan o’r arlwy.
Os oes unrhyw gyhoeddiadau, lansiadau neu straeon yr hoffech roi sylw iddyn nhw, cysylltwch drwy drydar neu e-bost Golwg: datganiadau@golwg.com.
Nod yr adran Safbwynt yw sbarduno trafodaeth am Gymru a thrafodaeth am y byd yn Gymraeg. Gallwch gyfrannu erthyglau am unrhyw bwnc – diwylliant, yr iaith, celfyddydau, teledu, radio, yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, hanes, addysg, yr economi, yr iaith… unrhyw beth, ewch amdani!
Darllen rhagor
Ar ôl cyflwyno’ch erthygl, bydd golygyddion Golwg yn cael cyfle i’w golygu, ei chymeradwyo, a’i chyhoeddi – bydd eich erthygl wedyn yn ymddangos ar adran Safbwynt ar Golwg360.
Byddwn hefyd yn rhannu eich erthygl i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, felly cofiwch dynnu sylw at eich erthygl a’i hanfon at eich ffrindiau ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb. Bydd eich enw ar y wefan yn gweithredu fel dolen i’ch holl gyfraniadau – felly gallwch ei drin ychydig fel blog personol.
Os byddwch am gyfrannu’n rheolaidd – cysylltwch! Gallwn drefnu tanysgrifiad am ddim i gyfranwyr rheolaidd.
Mwynhewch y sgrifennu… a’r darllen!
Darllenwch ein canllawiau ar gyfrannu i’r adran Safbwynt