Parchedig Beti-Wyn James, Eisteddfod Sir Gar 2014
Y ffordd orau o gofio’r miliynau a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf yw gweithredu dros heddwch a chymod er mwyn osgoi gwewyr a dioddefaint tebyg yn y dyfodol, meddai’r Parchg Beti-Wyn James, yn ei phregeth yn Oedfa Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr y fore heddiw.

Fe alwodd ar lywodraeth Prydain i roi’r gorau i’r gwario mawr ar Trident; ar lywodraeth Cymru i atal y defnydd o awyrennau rhyfel di-beilot yn Aberporth a Llanbedr; i roi stop ar recriwtio plant o dan 18 oed i’r lluoedd arfog ac i gyflwyno astudiaethau cyfiawnder, heddwch a hawliau dynol yn rhan greiddiol o raglen addysg ysgolion Cymru.

Wrth annerch y dorf fawr yn y pafiliwn yn Llanelli a’r miloedd oedd yn gwylio adre ar S4C dywedodd nad cadoediad yn unig sydd ei angen yn Gaza, ond ymdrech wirioneddol i fynd at wraidd y gwrthdaro er mwyn sicrhau heddwch hirdymor yn y rhan yna o’r byd.

“Mae cyfrifoldeb ar ddilynwyr Iesu Grist i warchod y byd,” meddai’r Parchedig Beti-Wyn James, gweinidog eglwys Annibynnol y Priordy, Caerfyrddin, “a hynny drwy herio’r agwedd bod hi’n iawn i ddifetha bywydau pobl eraill er mwyn cyflawni unrhyw bwrpas.”