Mae bysus gwennol yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dod dan y lach ar ddyddiau cynta’ prifwyl Sir Gaerfyrddin yn Llanelli 2014.

Neithiwr, cyn ac ar ôl y cyngerdd agoriadol, roedd dryswch ynglhlch pryd ac i lle yr oedd y bysus yn rhedeg, gydag eisteddfodwyr yn cwyno am ddiffyg arwyddion i adnabod y meysydd parcio.

Roedd blaen pob bws yn nodi meysydd parcio 1, 2 neu 3, ond doedd hynny’n dda i ddim i bobol oedd ddim yn deall i ba gyfeiriad oedden nhw angen mynd.

Fore heddiw, roedd y bysus deulawr yn rhedeg yn orlawn, gyda dim ond dau fws yn cyrraedd pob maes parcio, gyda’i gilydd, bob awr.

Yn y cyfamser, mae cystadleuwyr, stondinwyr a phobol sydd ddim yn gallu sefyll ar eu traed yn hir, yn ciwio yn y meysydd parcio am dros dri chwarter awr, lle nad oes cysgodfan petai hi’n dod yn law.