Y wasgod!
Fe gododd ambell ael yn y Pafiliwn yn Eisteddfod Sir Gaerfyrddin fore heddiw, wrth i arweinydd un o fandiau dosbarth 3 gyrraedd y llwyfan mewn gwasgod o batrwm Iwnion Jac.

A oedd yna reswm dros hyn, a hithau o fewn chwech wythnos i refferendwm annibyniaeth yn yr Alban? Oedd, oherwydd y darn oedd yn cloi rhaglen Band Ogwr oedd ‘Rule Britannia’.

Ac ar ddiwedd y darn hwnnw, roedd gan bob aelod o’r band ei faner eu hun – ambell Jac yr Undeb, ambell Ddraig Goch – i’w chwifio.

Chafodd y band ddim gwobr.