Y lliain llestri
Mae’r bardd a’r awdur, Dr Llŷr Gwyn Lewis, sy’n ddarlithydd yn y Gymraeg yn Academi Hywel Teifi,  Prifysgol Abertawe, wedi cyfansoddi englyn i fynd ar liain llestri fydd yn rhodd am ddim i ddarpar fyfyrwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, dyma’r lliain llestri cyntaf mewn rhan o gyfres bydd yn cael eu rhoi am ddim ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol o hyn ymlaen.

Yn y dyfodol, gwahanol feirdd o Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe fydd yn mynd ati i lunio pennill ar gyfer y llieiniau – gan gynnwys yr Archdderwydd Cymru yr Athro Christine James, a’r Prifardd Tudur Hallam.

Dyma englyn Llŷr Gwyn Lewis:

I fore’r mân ddiferion – y down ni

gyda’r nos o straeon

gan eu hel i’r gegin hon,

ac felly, gwnawn gyfeillion.