Y darlun o waith Wynne Melville Jones
Mae darlun olew newydd o un o enwogion mwya’ poblogaidd ardal Llanelli yn cael ei arddangos am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlathol Sir Gâr yn Llanelli yr wythnos nesa’.
Mae’r portread o’r arwr rygbi Ray Gravell, o waith yr arlunydd o Geredigion Wynne Melville Jones, yn cael ei arddangos am yr wythnos ar stondin Tinopolis ar y Maes. Dyma gynnig cynta’ Wynne ar baentio portread.
“ Roeddwn am geisio mentro i fyd y portreadau a bu’n sialens heriol iawn, a phenderfynais nad oedd unman gwell i gychwyn na phortread o Ray Gravell, un a fu’n un o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru ac un yr oeddwn ag edmygedd mawr iawn ohono,” meddai.
Bu’r ddau yn cydweithio’n agos ar ddiwedd y 1970au pan oedd Wynne yn gyfrifol am gyhoeddusrwydd fudiad yr Urdd.
Er bod y llun yn newydd sbon a’r paent ddim ond wedi prin sychu mae’r darlun yn perthyn i’r cyfnod hwnnw pan oedd Ray yn enw mawr y byd rygbi.
“Yn anterth sefydlu Mistar Urdd yn 1977 roedd angen dangos I’r aelodau bod ganddo enwogion yn ffrindiau da.
“Daeth y syniad i ryddhau record ychwanegol at “Hei Mistar Urdd …” a hynny gyda Ray Gravell ei hun yn canu cân newydd o waith Geraint Davies “Y fi a Mistar Urdd a’r Crysau Coch”.
“Llwyddais i berswadio Ray i wneud hyn a hynny dros ginio yng ngwesty’r Stepney yn Llanelli ac wedi ffarwelio â Ray yn gegrwth â thâp o’r gân newydd yn ei boced, gwnaed trefniadau ar gyfer recordio yn Stiwdio Sain yn Llandwrog.
“Y noson cyn y recordiad, pan gyrhaeddodd Ray roedd yn poeni’n arw ei fod wedi dal anwyd ac fe gafodd feddyginiaeth gen i ac wedi i’r recordiad yn hwylus iawn y diwrnod canlynol cawsom ginio yng nghwmni Dafydd Iwan – arwr mawr Ray, ac roedd yn achlysur i’w gofio.
“Ar y ffordd adre mawr oedd pryder Ray am ansawdd ei lais a safon y record ond dywedais wrtho bod Dafydd Iwan yn hapus iawn gyda’r recordiad, a dyna derfyn ar y pryder
“Bu’r record yn llwyddiant ysgubol ac yn hwb sylweddol i’r ymgyrch. Pan fyddwn yn gweld Ray dros y blynyddoedd wedyn roedd wastad yn dweud mai canu cân Mistar Urdd roddodd iddo’r hyder i symud ymlaen i wneud rhywbeth yn ychwanegol at ei yrfa ar y maes rygbi.”