Elgan Rhys yn ymarfer Llais
Mae actor ifanc o Bwllheli wedi rhoi her a hanner iddo’i hun gyda’i ddrama lwyfan gyntaf, sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf ar lwyfan Theatr y Sherman heno yng Nghaerdydd.

Er gwaetha’r teitl – Llais – does yr un gair yn cael ei ynganu gan Elgan Rhys yn ystod y perfformiad sy’n para tri chwarter awr ac yn trafod effaith greulon bwlio.

Fe benderfynodd fynd i’r afael â phwnc mor drwm, a hynny heb lefaru’r un sill ar lwyfan, ar ôl gweld fideo roddwyd ar YouTube gan ferch 15 oed o Ganada yn 2012.

Cafodd hanes Amanda Todd sylw rhyngwladol wedi iddi ladd ei hun ar ôl diodde’ seibr-bwlio gan bobol oedd yn ceisio ei gorfodi i ddangos ei bronnau ar gwe-gamera.

Yn dilyn ei marwolaeth aeth y fideo yn feiral, sef dod yn boblogaidd trwy gael ei rannu ymysg pobol ar y We.

“Wnes i ddod ar draws fideo Amanda Todd ar YouTube lle’r oedd hi’n esbonio ei phrofiadau hi o gael ei bwlio, a hynny ar flash cards,” eglura Elgan Rhys.

“Roedd y ddelwedd yna ohoni hi efo flash card – doeddech chi ddim yn gweld ei gwyneb hi – yn dorcalonnus. Mae o’n dal i hitio fi rŵan, bod yr hogan yma’n methu siarad am gael ei bwlio.

“Roedd hi’n gallu sgwennu fo lawr ar ddarn o bapur, ond yn amlwg yn methu siarad amdano …ac mi laddodd ei hun rhyw bythefnos ar ôl rhoi’r fideo ar YouTube.”

Oherwydd yr hyn welodd o, a’i brofiadau ei hun o fwlio tra’n tyfu fyny, roedd Elgan Rhys yn teimlo rheidrwydd i greu sioe yn trafod y pwnc.

Ond roedd am lwyfannu darn heb eiriau, er mwyn pwysleisio anallu dioddefwyr fel Amanda Todd i leisio eu pryderon.

“Y rheol o’r cychwyn cyntaf ydy bo fi ddim yn cael siarad, er mwyn atgyfnerthu’r syniad yna o ddiffyg cyfathrebu…mae siarad am gael eich bwlio yn un o’r pethau anodda’ fedra rywun ei wneud, cyfaddef i chi’ch un eich bod yn cael eich bwlio.

“Ond er fod o’n un o’r pethau anodda’, mae o’n rhyddhad ar ôl i chdi wneud. Mae cael y gyts i gyfadde’ a chael y geiriau yna allan yn gam mawr, ond unwaith yr wyt ti’n gwneud mae pethau’n gwella.”

Yn yr ysgol uwchradd wnaeth Elgan Rhys sylweddoli bod eraill yn galw enwau arno.

“Y rhai roeddwn i’n cael fy ngalw amlaf oedd gay, pwff, ffati…mae geiriau yn tueddu i sticio efo chdi ac yn effeithio arna chdi wrth i ti ddatblygu fel person.”

Fel rhan o’r gwaith ymchwil ar gyfer Llais bu’n trafod y bwlio gyda chyfarwyddwr y sioe, Gethin Evans.

“Roedd o’n reit ddwys, reit intense,” meddai. “Ond gan fy mod i’n ‘nabod y cyfarwyddwr roeddwn i’n gallu siarad am bethau yn onest.”

A phrif bwrpas Llais yw annog pobol ifanc i drafod unrhyw broblem sy’n fwrn.

“Mae’r llais o fewn y perfformiad yn absennol, ond mae hynny yn bwrpasol er mwyn annog pobol i siarad am y peth.”

Ar ddiwedd y perfformiad bydd Elgan Rhys yn rhoi cardiau i’r gynulleidfa fedru sgwennu eu teimladau a’u profiadau lawr a chael tynnu eu lluniau yn dal y cardiau. Bydd y lluniau wedyn yn mynd ar wefan cwmni cynhyrchu’r actor.

“Dw i ddim eisiau iddo fod yn berfformiad, ac wedyn dyna fo. Mae o’n rhywbeth parhaus.”

Bydd Llais yn Theatr y Sherman Caerdydd ar Awst 1 a 2, yna’n ymweld â’r Eisteddfod yn Llanelli cyn teithio i’r Ffrinj yng Ngŵyl Caeredin.

“Fydd o’n neis mynd â rhywbeth gwahanol o Gymru i’r Ffrinj, iddyn nhw gael gweld bod yna waith mwy gwreiddiol ac anghonfensiynol yn digwydd yng Nghymru.”

Cynhyrfus

Yn fachgen ysgol fe fyddai Elgan Rhys yn dweud wrth ei rieni nad oedd ei ddillad yn ffitio amdano, er mwyn peidio gorfod mynd i’r ysgol.

Ar gyfer un ‘gosodiad’ yn Llais mae’n ail-greu’r profiad o wrthod gwysgo amdano.

Ond er y bwlio, mae’r actor am bwysleisio fod ganddo “ffrindiau grêt a theulu hynod gefnogol.

“Dim cry for help ydy’r sioe, a dw i ddim am i neb feddwl ‘Oh roeddwn i’n cael fy mwlio, rhowch hyg i fi’.

“Dw i ddim yn chwilio am gydymdeimlad. Mae’r darn am wynebu a chyfadde’ eich body n cael eich bwlio, a ffeindio ffordd o ddelio efo fo.”

Ers graddio mae Elgan Rhys, sy’n fab i berchnogion cwmni bysus Cae Lloi ym Mhwllheli, wedi penderfynu creu ei gwmni ei hun – Cynhyrchiadau Pluen – er mwyn “creu gwaith gwahanol”.

Ychydig wythnosau cyn llwyfannu ei gynhyrchiad cyntaf roedd yn teimlo’n nerfus a chyffroes.

“Mae gen i syniad go dda o deimlad y peth, ond ddim yn gwybod yn union sut fydd o’n plethu i’w gilydd.

“Un o’r pethau lyfli am theatr ydy bod pethau yn reit funud olaf a ti’n gorfod mynd efo dy reddf.”